Nodyn i’r tiwtor 5 cd 1: cynnwys 9



Download 0.67 Mb.
Page24/36
Date31.07.2017
Size0.67 Mb.
#25383
1   ...   20   21   22   23   24   25   26   27   ...   36

CD2: TRAC 8


a) cardota; mwyara; diota; gwledda; merlota; busnesa; ciniawa

b) hollt / rhwyg; perfedd / canol; meddyginiaeth /moddion; affwysol / dybryd;


galluogi / hwyluso; hyder / sicrwydd; taeogrwydd / gwaseidd-dra.

c) 80% - pedwar ugain y cant; 100% - cant y cant.


CD2: TRAC 9


a) a corner kick – cic gornel; penalty box – y blwch cosbi; to counter-attack – gwrthymosod;
a cross –croesiad; a header – peniad; a throw-in – tafliad i mewn; a forward – blaenwr;
a run – rhediad; a goal-kick – cic gôl; to be offside – camsefyll.

b) Mae e’n dal i frwydro.


y cyfnod pan oedd Cymru ar ei gorau o dan Mark Hughes.
yn gwthio un neu ddau o chwaraewyr Cyprus oddi ar y bêl.
yn caniatáu i fechgyn Cymru ddod nôl yn un rhes ar draws y cwrt cosbi
roedd e’n gyd-chwarae bendegedig yng nghanol y cae ond ei gyffyrddiad cyntaf ychydig bach yn
rhy galed.
Mae’r dorf ar ei thraed.

c) Y ffurfiau cywir yw: oddi ar; oddieithr; oddi wrth; oddi am.


CD2: TRAC 10


a) Roedd Brynaman a Llanuwchllyn yn bentrefi diwylliedig.
Dechreuodd Dafydd ymddiddori mewn rhaglenni canu pop yn y pumdegau.

Am nad oedd e’n canu offeryn, roedd rhaid iddo ganu’n ddigyfeiliant.

Cafodd e flas ar ganu.
Aeth swyddogion yng Nghlan-llyn i banics yn ofni bod reiat ar eu dwylo.
Cyflwynodd y gwersyllwyr ddeiseb i’r BBC yn gofyn am gael gweld Dafydd ar y teledu.



b) Sylwch fod y geiriau sy’n gorffen yn -eb; -fa; -aeth i gyd yn fenywaidd tra bod y rhai sy’n gorffen ag
-wch; -edd yn wrywaidd.

c) ar ddamwain ar siawns


ar bigau’r drain yn bryderus ac anghysurus
â’i wynt yn ei ddwrn ar frys mawr
bod â dwylo blewog bod yn lleidr
ar gyfeiliorn ar grwydr
at ei gilydd ar y cyfan
prynu cath mewn cwd mentro heb sicrwydd
heb na bw na be heb yngan gair
yn ei unfan heb symud
ceffyl blaen un sy’n hoffi arwain


CD2: TRAC 11


a) yn llydan agored – ar agor led y pen; calon yn curo’n drwm – â’i galon fel gordd ;
roedd yn hawdd iddo – nid oedd drafferth yn y byd; diflannwch, ferch – o’r golwg, ferch;
safodd lle roedd e – arhosodd yn ei unfan; cerdded heb sŵn – cerddodd ar flaenau’i draed;

rhewodd ei waed – fferu am eiliad; y cythraul! – y gwalch!

b) diolch i’r drefn; aeth at y ffenest; erfyn am gael; dal di atyn nhw; gwrando ar ei galon;
gafael yn; cau am

c) fferu – rhewi; bwtri – pantri; dudew – tywyll; ceryddu - dwrdio; gruddiau – bochau;


cilagored – hanner agored; gordd – morthwyl pren; dwrn – bwlyn; gwalch – dihiryn.


CD2: TRAC 12


a) Roedd e’n rhyfeddol o ddewr yn wyneb y gelyn. Siaradais ag ef aml i dro yn y pentref.
Dw i ddim wedi bod yno ers tro byd. Roedd pâr da o esgidiau am fy nhraed.
Mae Eferest yn glamp o fynydd.

b) gobeithio – hyderu; sydyn – disymwth; symud –mudo; ers amser – ers tro byd;


tlawd –llwm / moel; chwerwder – surni; anghymarol – dihafal; het fawr –clamp o het

c) DYMUNOL: ffraeth; caredig; galluog; cymwynasgar; hynaws; siriol.


ANNYMUNOL: twp; cwynfanllyd; swrth; byrbwyll; cybyddlyd; ffiaidd.

CD2: TRAC 13


a) Hen bentref yw Cefn-bryn-brain. [Anwir]
Doedd dim diwydiant yn yr ardal. [Anwir]
Mae’n sefyll yn ymyl Cwmllynfell. [Gwir]
Roedd achos Methodistaidd yng Nghwmllynfell yn amser Cromwell. [Anwir]
Dydy’r siaradwr ddim yn byw yno nawr. [Gwir]
Penderfynodd y Swyddfa Gymreig adleoli’r pentref. [Gwir]
Mae’r siaradwr wrth ei fodd â’r penderfyniad. [Anwir]

b) diwydiant – y gwahanol fannau gwaith mewn ardal.


diwylliant – y pethau sy’n difyrru pobl ac sydd o ddidordeb iddynt.
comin – tir sy’n eiddo i gymdogaeth gyfan.
cae – darn caeedig o dir ac arno borfa.
efengylu – ceisio ennill pobl i ffydd arbennig.
darlithio – siarad ar bwnc arbennig er mwyn diddanu neu addysgu.
diwygiad – ennill llawer o bobl i grefydd.
chwyldro – newid pethau mewn gwlad trwy rym grwpiau pwyso.
c) Enghraifft : Ers llawer dydd roedd mynd ar y pyllau glo yn y cymoedd. Roedd y capeli a’r tafarnau
dan eu sang a phobl yn gweithio Sul, gŵyl a gwaith. Yn y pwll, dibynnai dynion ar nerth bôn braich i
ennill bywoliaeth. Ond erbyn hyn mae’r pwll wedi mynd â’iben iddo ac mae popeth yn y gymdeithas ar
drai. Mae teuluoedd yn ei chael hi’n anodd cael dau benllinyn ynghyd. Does ond gobeithio y daw tro ar
fyd. Os digwydd hynny bydd pawb ar ben eu digon.

CD2: TRAC 14


a) cylchrediad – y nifer o gopïau o’r papur a werthir; bygythiad – rhywbeth sy’n peryglu eich sefyllfa;
di-ben-draw – heb ddiwedd; golygydd – y person sy’ngyfrifol am gynnwys papur newydd;
angerddol – teimlo yn gryf iawn; argraffiad – rhifyn o bapur a anelir at ardal arbennig.

b) i) cyfeirio (berfenw ymhlith enwau)


ii) traddodiad (y lleill yn cyfeirio at amser)
iii) cyfeiriadau (enw, tra bod y lleill yn ansoddeiriau)
iv) golygu (y lleill yn cyfeirio at newid maintrhywbeth)

c) adlewyrchiad; ager; angerddol; canu; cenedlaethol;chwarae; golygu; lafant; Llanelli; ras;

traddodiad; trosglwyddo; thus.

CD2: TRAC 15


a) Fyddai e byth yn twyllo, fyddai e?
Yng Nghaerdydd roedd e’n gweithio, yntefe?
Does dim arian ’da nhw, oes e?
Fe brynodd e’r ceffyl, on’d do fe?
Ddylai e ddim siarad fel ’na, ddylai e?
Dw i’n iawn, on’d ydw i?
Dwyt ti ddim yn credu hynny, wyt ti?
Mi ddaw o rwan, oni ddaw?

b) i) cywir ii) anghywir: y Swyddfa Gymreig iii)anghywir: Bwrdd Croeso Cymru iv) cywir v) cywir


vi)anghywir: delyn deires Gymreig

c) amaethyddiaeth > amaethyddol; diwydiant >diwydiannol;


gwlad > gwledig / gwladol / gwladaidd /gwladgarol / gwlatgar / gwladwraidd;
mynydd >mynyddig / mynyddog; bryn > bryniog.

Download 0.67 Mb.

Share with your friends:
1   ...   20   21   22   23   24   25   26   27   ...   36




The database is protected by copyright ©ininet.org 2024
send message

    Main page