Nodyn i’r tiwtor 5 cd 1: cynnwys 9



Download 0.67 Mb.
Page35/36
Date31.07.2017
Size0.67 Mb.
#25383
1   ...   28   29   30   31   32   33   34   35   36

CD 2:TRAC 8


Fe fuodd e ar un cyfnod yn dyfwr tomatos, y tomatos gore a welodd y byd erioed, yn ei farn e. Roedd y gwaith hwnnw yn ei alluogi i dreulio rhan fwya o’r amser yn gwleidydda ac yn cenhadu dros Blaid Cymru, y bu’n Llywydd arni am dri deg chwech o flynyddoedd. Roedd e’n heddychwr cyn iddo fod yn wleidydd, rhywbeth a achosodd gryn drafferth iddo fe a’i rieni yn Y Barri adeg y rhyfel a’r rheswm iddo fynd i fyw i berfeddion y wlad yn Sir Gâr. Priodi Rhiannon; hebddi hi, medde fe, fydde fe byth wedi gallu gneud yr hyn na’th e dros Gymru. Dim ond un Gwynfor sy’. Mae’r Evans yn amherthnasol ac fe es i draw ato i’w gatre,Talar Wen, ym Mhencarreg.

Mae ’na ryw daeogrwydd yn bod yng Nghymru, ryw ddiffyg hyder affwysol yn bod yma yng Nghymru a un o’r gobeithion sydd gen i y bydd y Cynulliad hwn ... fel y bydd e’n gweithio’n dda, a fel y bydd e’n tyfu ... y bydd y Cynulliad hwn yn adfer hyder ymhlith mwyafrif mawr pobol Cymru. Dyna sydd eisie fwya arnon ni.



A beth am yr hollt yma maen nhw’n dweud nawr sydd wedi cael ei achosi, yndife, sef hollti Cymru lawr yr hanner?

Wel, does ’na ddim hollt fel’na mewn gwirionedd achos fe bleidleisiodd deugain y cant o bobl dwyrain Cymru dros y Cynulliad, dim cymint â hynny yn llai na phobl gorllewin Cymru, felly ryw stori fach, myth, yw’r hollt ’ma.



Wrth gwrs, y mewnfudwyr hefyd yndife, mae ’na gynifer ohonyn nhw wedi dod i fewn i Gymru, yn enwedig ar yr ochor ddwyreiniol ond, wrth gwrs, ’da ni’m fod sôn am rhain yn effeithio ar y bleidlais ond mae’n rhaid bod ’na effeth wedi bod ar y bleidlais?

O, mae’n siwr, o achos mae ’na gannoedd o filoedd ohonyn nhw, hyd yn oed yn Sir Fôn. Mae yn agos i gwarter poblogaeth Môn wedi’u geni yn Lloegr. Saeson y’n nhw, ac mae hyn yn wir hyd yn oed am yr ardaloedd gwledig ffordd hyn.




Lleiafrif onid e o’r mewnfudwyr yma sy’n fodlon toddi i’r gymdeithas Gymraeg, felly?

Ia, mae hynny’n wir er i ni gychwyn mudiad i geisio cael llawer iawn mwy ohonyn nhw.

Pont’?

’Pont’ oedd enw’r mudiad, ie, ac mae ’na ganghenne yn dal i fod ym Mhont ond doedd dim – o’n ni ddim yn gallu fforddio cael trefnydd llawn amser, wrth gwrs, ac mae’n anodd iawn cadw mudiad fel’na i fynd heb hynny. Ond, beth oedd y mudiad yna’n neud oedd ceisio cael mewnfudwyr i gryfhau bywyd Cymru, i ymroi i’r bywyd Cymreig, a nhw achosodd y broblem yma yn y lle cyntaf. Nhw fydda’r feddyginiaeth, ac mae llawer, wrth gwrs, wedi ymateb. Mae’n rhaid dweud bod ’na gannoedd lawer ohonyn nhw sydd wedi dod yn Gymry ardderchog. Mae’r rheini i gael trwy’r wlad ond lleiafrif bach y’n nhw o’r rhai sydd wedi dod i mewn.



Wrth gwrs, o’ch chi’n cael y’ch beirniadu ar un adeg fel arweinydd y blaid nad oedd ddim yn gallu denu y di-Gymraeg yn y cymoedd?

Ie, wrth gwrs o’n ni’n cael ein cyhuddo o fod yn blaid i’r Cymry Cymraeg ac oedd e’n wir. Oedd llu

o bobol yn dweud na allen nhw ddim perthyn i’r Blaid am nad oedden nhw’n siarad Cymraeg. Fe ddywedodd llawer hynny wrtho i ac felly pan ofynnodd Saunders Lewis yn ei ddarlith enwog ‘Tynged yr Iaith’ ym 1962 i’r Blaid ymgyrchu o blaid yr iaith mewn ffordd uniongyrchol, torri’r gyfraith ac yn y blaen, o’n i ddim yn gallu cytuno o achos fydde hynny’n neud ni’n fwy byth o fudiad iaith ac fydde’r Blaid fel plaid wleidyddol yn methu ac felly fe sefydlwyd, gan aelodau o’r Blaid, aelodau ifanc o’r Blaid fel John Davies a Teddy Millward ac eraill, fe sefydlwyd Cymdeithas yr Iaith a dyna oedd y ffordd ragorol o weithredu ac maen nhw wedi bod yn arwrol, wrth gwrs, eu gweithrediade. Mae ymhell dros fil ohonyn nhw wedi bod yn y carchar. Wel, mae hwnna’n siarad drosto’i hun. Does dim ysbryd fel’na wedi bod yng Nghymru ers canrifoedd lawer.


CD 2:TRAC 9


Wel, mae gan Gymru’r meddiant ar yr ochor dde. Simon Davies. Davies dal i fynd. Mae’n anlwcus, mae’n dal i frwydro. Simon Davies ac mae o’n ennill cic gornel. Mae Simon Davies, ’da chi’n cofio pan ... y cyfnod pan oedd Cymru ar ei gore dan Mark Hughes ... Simon Davies a Mark Delaney mor effeithiol lawr yr ochor dde.

Wel,dyna ydy ei gryfder o, yn rhedeg efo’r bêl, yn torri i fewn i’r cwrt cosbi, unwaith eto yn dangos ei gryfder. Dydy o ddim yr hogyn mwya’ ond yn dangos ei gryfder yn gwthio un neu ddau o chwaraewyr Cyprus oddi ar y bêl.

Cic gornel fewn. Mae Bellamy yno ac mae ’na gyfle fan hyn i Gyprus i geisio gwrth ymosod a Makridis sydd â’r meddiant. Mae gynno gymorth o’r tu allan iddo fo ac yn mynd trwy’r canol y mae Aloneftis. Y capten sydd ar bêl ar hyn o bryd. Okkas ... Okkas draws ochor dde y cae i Gyprus, i Theodotou. Croesiad fewn i’r canol, peniad allan gan Richard Duffy. Y bêl yn ôl fewn i ochor y cwrt cosbi a mae ’na dipyn o amser i Gareth Bale ac mae o’n clirio’r bêl fyny tuag at yr hanner ffordd, jyst dros yr hanner ffordd, a thafliad i Gyprus.



Ia, ella bo chi’n gweld enghraifft fanna o wahaniaeth safon hwyrach rhwng Cyprus a Slofacia. Do, mi ddaru Cyprus wrth-ymosod yn fanna ond oedd cyflymdra y gwrth-ymosodiad ddim hanner mor gyflym ag oedd Slofacia’n medru neud dydd Sadwrn. Mi ddaru hynny ganiatáu i fechgyn Cymru ddod yn ôl yn un rhes ar draws y cwrt cosbi ac amddiffyn o fanno.

Earnshaw, aros am y rhediad gan Bellamy. Mae Bellamy mewn fan hyn. Bellamy heibio’r golwr ond mae’r ongl yn anodd ond oedd o’n gyd-chwarae bendigedig o ganol y cae a thrueni i Craig Bellamy, oedd o’n haeddu gwell.



Wel mae o’n be ’da chi’n edrych amdan y ddau flaenwr i neud ydy chwarae efo’i gilydd, chwarae un, dau, rhediad unwaith eto, rhediad gwych gan Bellamy ond ei gyffyrddiad cynta fo ychydig bach rhy galad a’r bêl yn mynd allan am gic gôl.

Ond dw i’n meddwl bod Bellamy yn weddol saff, oes oedd o’n mynd i gael y cyffyrddiad cynta, bod o’n mynd i ddenu’r golwr i mewn a mi ddaru’r golwr fod yn glyfar iawn iawn yn dal ei hun yn ôl rhag mynd i mewn am y sialens yna.



Dwn i’m pam oedd o’n poeni oedd o’n gwbod ’sa fo’n cael ei gosbi beth bynnag oedd o’n neud, nagoedd?

Bale yn codi’r bêl ymlaen i’r sgoriwr Kumas, Kumas - mae’n cael dipyn o lwc ond mae o’n canfod Carl Robinson. Robinson, y bas ymlaen tuag at Bellamy. Dydy Bellamy ddim yn camsefyll. Mae ’na gyfle rwan am ddwy i ddim . . .Craig Bellamy . . . fewn i Earnshaw . . mae’n ddwy i ddim. O, gwych! Mae’r bartneriaeth wedi gweithio ac mae Earnshaw yn dathlu ac yn mwynhau’r eiliad, ac mae’r dorf ar eu traed. Dwy i ddim i Gymru.









Download 0.67 Mb.

Share with your friends:
1   ...   28   29   30   31   32   33   34   35   36




The database is protected by copyright ©ininet.org 2024
send message

    Main page