CD 2: CYNNWYS
TRAC 1
|
TRAFOD Y FFILM ‘WIZARD OF OZ’ - 3.44
|
TRAC 2
|
TRAFOD CYNLLUN STAMPIAU’R NADOLIG - 5.58
|
TRAC 3
|
COFIO TEULU SYLVIA PANKHURST - 4.45
|
TRAC 4
|
IOLO WILLIAMS YN SÔN AM ADAR - 2.06
|
TRAC 5
|
SGWRS Â RAY GRAVELL AM ACTIO - 4.40
|
TRAC 6
|
TRAFOD Y DEFNYDD O ‘TI’ A ‘CHI’ YN GYMRAEG - 4.07
|
TRAC 7
|
SGWRS RHWNG TOMOS MORSE A’R ACTOR IOAN GRUFFYDD - 5.36
|
TRAC 8
|
BETI GEORGE YN CYFWELD Â’R DR GWYNFOR EVANS - 4.32
|
TRAC 9
|
SYLWEBAETH PÊL-DROED - 2.55
|
TRAC 10
|
DAFYDD IWAN YN SÔN AM DDECHRAU EI YRFA - 3.15
|
TRAC 11
|
DYFAN ROBERTS YN DARLLEN STORI ARSWYD - 2.11
|
TRAC 12
|
GUTO ROBERTS YN SÔN AM GYMERIAD GWREIDDIOL - 2.44
|
TRAC 13
|
ATGOFION DR DEREC LLWYD MORGAN AM GEFN-BRYN-BRAIN - 1.08
|
TRAC 14
|
GOLYGU’R ‘CYMRO’ – ATGOFION JOHN ROBERTS WILLIAMS - 2.34
|
TRAC 15
|
JONSI’N SGWRSIO Â MIRIAM JAMES AM EI GWAITH MEWN SIOP LYFRAU – 3.30
|
TRAC 16
|
BETH SYDD MEWN ENW? - 4.03
|
TRAC 17
|
HUNANGOFIANT VICTOR SPINETTI - 3.04
|
CD1: TRAC 1
[Y darlledwr, Arfon Haines Davies, yn adrodd ei brofiadau yn ddisgybl mewn dwy ysgol wahanol iawn i’w gilydd]
GEIRFA
unlle canlyniadau
pumdegau eilradd
bwlïan disgybl
stori (straeon) gwyrth
rhyfedd
disgyblaeth lem
Treffynnon
GWRANDO A DEALL
i) Ym mha gyfnod o’i fywyd oedd Arfon yn byw yn Aberystwyth?
ii) Pa mor hapus oedd e yn yr ysgol gynradd yno?
iii) Beth oedd Mary Vaughan-Jones yn gallu ei wneud yn dda?
iv) Pam nad oedd Arfon yn hapus yn Ysgol Ardwyn?
v) Pwy oedd yn cael mynd i Ysgol Ardwyn?
vi) Ble roedd y lleill yn mynd?
vii) Sut roedd y prifathro’n darllen canlyniadau’r 11-plus?
viii) I ble symudodd y teulu o Aberystwyth?
ix) Sut roedd e’n hoffi Ysgol Glan Clwyd?
x) Pam roedd e’n sôn am wersylloedd Colditz a Butlin’s?
IAITH
a) Cwblhewch y rhestr hon o enwau lleoedd:
Holywell Treffynnon
St Davids
Brecon
Holyhead
Fishguard
Denbigh
Welshpool
Newport
Chepstow
b) Mae’r siaradwr yn sôn am “un o flynyddoedd ‘hapus’ fy mywyd”.
Gradd eithaf ‘hapus’ yw ‘hapusaf’. Beth yw gradd eithaf y canlynol?
hapus hapusaf
da
drwg
bach
hawdd
agos
llydan
tlawd
caredig
c) Ysgrifennwch frawddegau i ddangos y gwahaniaeth rhwng y parau hyn o eiriau:
bae/bai; caledi/caledu; côr/cor; crud/cryd; chwaith/chwaeth.
TAFODIAITH
Er iddo gael ei fagu yn Aberystwyth, pa dystiolaeth sydd bod dylanwad y gogledd yn drwm ar iaith lafar y siaradwr?
TRAFOD
i) Soniwch wrth aelodau eraill y grŵp am:
a) y peth gwaethaf
b) y peth mwyaf doniol ddigwyddodd i chi yn yr ysgol.
ii) Disgrifiwch athro a ddylanwadodd arnoch.
iii) Ar wahân i waith ysgol, beth fwynheuoch chi ei wneud?
iv) Cael sgwrs â rhywun sy’n siarad Cymraeg yn eich ardal am ddyddiau ysgol a dod ag adroddiad yn ôl i’r dosbarth.
YMADRODDION
trwy ryw ryfedd wyrth y pumdegau
YSGRIFENNU
Taswn i’n cael dechrau fy mywyd unwaith eto…
Fy atgof cyntaf o’r ysgol.
Ysgol profiad yw’r ysgol orau?
CD1: TRAC 2
ADRODDIAD FFYRDD
[Wil Morgan yn cyflwyno adroddiad ar gyflwr y ffyrdd]
GEIRFA
tagfa (tagfeydd)
parhau
yn gyfangwbl
ailgyfeirio
oedi
tarmacio
ar amser
GWRANDO A DEALL
i) Ble roedd y ddamwain ar ffordd M4?
ii) Pa mor bell yn ôl mae’r ciw yn ymestyn?
iii) Beth sydd wedi achosi i ffordd A470 gael ei chau?
iv) Trwy ba dref mae’r traffig wedi ei ailgyfeirio?
v) Ble mae car wedi torri i lawr ar ffordd A470?
vi) Beth sy’n digwydd ar ffordd A40 yng Nghaerfyrddin?
vii) Ar ba ffordd does dim trafferthion o gwbl?
viii) Faint o broblemau sy’n gysylltiedig â’r fferis a’r trenau i Iwerddon?
ix) Am faint o’r gloch bydd yr awyren o Sharm el Sheikh yn glanio?
x) Beth yw’r rhif ffôn?
Share with your friends: |