DISGRIFIAD O’R DARN
O dan y prif bennawd, ceir disgrifiad cryno o gynnwys y darn. Dylai’r tiwtor ymhelaethu ar hyn yn ôl y galw a thynnu sylw ymlaen llaw at rai pwyntiau iaith a safbwyntiau sy’n mynd i godi.
GEIRFA
Bydd adnoddau geirfaol grwpiau, yn ogystal ag unigolion o fewn y grŵp, yn amrywio’n fawr iawn. Yr hyn a wneir yn yr adran hon yw rhestru’r geiriau allweddol yn y darn fel y gall tiwtoriaid ddethol y rhai y dylid eu hesbonio cyn dechrau gwrando.
GWRANDO A DEALL
Unig bwrpas yr adran hon yw sicrhau bod y gwrandawr wedi deall y neges a drosglwyddir. Gwneir hyn trwy ofyn cwestiynau ffeithiol am gynnwys y darn. Ni cheisir trafod y syniadau a fynegir. Awgrymir bod y dosbarth yn gwrando ar y darn ar ei hyd i ddechrau, heb gymryd nodiadau, ac wedyn gweld faint o’r cwestiynau y gallant eu hateb. Ar ôl gwneud hyn, gellir gwrando arno sawl gwaith eto hyd nes bo pawb yn deall y cynnwys.
IAITH
Seilir yr adran hon ar nodweddion ieithyddol sydd wedi codi yn y darn. Bydd yn cynnwys nifer o ymarferion i’w hateb yn ysgrifenedig neu ar lafar. Gall yr ymarferion ganolbwyntio ar eirfa neu batrwm arbennig, dro arall ar dreigladau neu briod-ddulliau. Nod yr adran fydd cyfoethogi a gloywi iaith gan adeiladu ar yr hyn a glywyd. Penderfynwyd cynnwys yr atebion i’r ymarferion mewn atodiad yn arbennig ar gyfer y rheiny fydd yn defnyddio’r pecyn ar eu pennau eu hunain.
TAFODIAITH
Rhan o gyfoeth y Gymraeg yw ei thafodieithoedd ac un o amcanion y casgliad hwn o ddarnau llafar yw rhoi i’r dysgwr gyfle i ymgyfarwyddo â’r amrywiadau diddorol a geir o ran geirfa, cystrawen ac ynganiad. Daw’r enghreifftiau o iaith lafar sawl rhan o’r wlad gyda’r siaradwyr yn amrywio o ran oed, addysg a chefndir. Fel arfer, gofynnir i’r dysgwr sylwi ar brif nodweddion yr iaith lafar dan sylw drwy ateb cwestiynau penodol. Mewn rhai darnau ceir siaradwyr o’r de a’r gogledd yn sgwrsio a chyfle felly i gyferbynnu nodweddion y ddau brif raniad tafodieithol. Os digwydd i siaradwr hanu o ardal y dosbarth, dylid rhoi cyfle i’r dysgwyr wrando ar ynganiad arbennig geiriau unigol sy’n nodweddiadol o’r dafodiaith leol.
TRAFOD
Yn yr adran hon canolbwyntir ar gynnwys y darn yn hytrach na’i nodweddion ieithyddol. Codir cwestiynau wedi eu seilio ar farn neu safbwynt a fynegwyd a gobeithir y bydd grwpiau yn trafod y syniadau hyn gan ddefnyddio’r iaith a godwyd yn yr adrannau uchod.
Prif ddiben dysgu iaith yw er mwyn ei siarad a dyna’r gweithgarwch y gobeithir ei symbylu dan y pennawd hwn. Cwmpasir nifer fawr o bynciau a gobeithir bod yn y detholiad rywbeth at ddant pawb. Os oes pwnc y teimlwch y bydd yn esgor ar ddrwgdeimlad yn y dosbarth, dylid ei osgoi ar bob cyfrif. Chi sy’n nabod eich dosbarth. Gall y trafod ddigwydd mewn parau, mewn grwpiau bach neu ar sail y dosbarth cyfan.
Mae gwrthwynebu a mynegi safbwyntiau gwrthgyferbyniol yn gallu esgor ar drafodaeth fywiog. Yn aml, gwelir sgiliau mynegiant dysgwyr yn gwella pan fydd y pwyslais ar bwnc sydd o ddiddordeb iddynt yn hytrach nag ar yr iaith. Gobeithir, yn wir, y bydd rhai o’r pynciau a godir yma yn gwneud hynny.
YMADRODDION
Tynnir sylw at unrhyw briod-ddull, ymadrodd neu gymhariaeth a glywyd ac sy’n werth eu nodi yn yr adran hon. Yn araf, a dros gyfnod o amser, y bydd dysgwyr yn ymgyfarwyddo â’r rhain, ond gan bwyll mae mynd ymhell a’r nod yw cyflwyno un neu ddau o ymadroddion newydd yn sgil pob darn.
YSGRIFENNU
Bydd y rhan fwyaf o diwtoriaid yn gosod gwaith cartref fydd yn cadarnhau pwyntiau a godwyd yn y dosbarth. Ym mhob adran awgrymir pynciau y gellir ysgrifennu arnynt gan ddefnyddio’r eirfa a’r patrymau a gododd yn sgil y gwrando a’r trafod. Dyna yn fras yw cynnwys y pecyn hwn. Rwy’n drwm yn nyled Eurof Williams am grynhoi amrywiaeth o ddarnau i’w dethol ac i Helen Prosser am fwrw llygad graff ar yr unedau a chynnig nifer o syniadau a sylwadau gwerthfawr. Diolch i’r ddau. Afraid dweud taw fi sy’n gyfrifol am unrhyw wendidau a welir yn y gwaith terfynol. Mawr obeithiaf, fodd bynnag, y bydd tiwtoriaid a dysgwyr yn cael budd a phleser wrth wrando ar y darnau a’u trafod.
Cennard Davies,
Treorci. Ionawr, 2010
CD 1: CYNNWYS
TRAC 1
|
ARFON HAINES DAVIES YN SIARAD Â BETI GEORGE AM DDYDDIAU YSGOL - 2.35
|
TRAC 2
|
ADRODDIAD FFYRDD - 1.00
|
TRAC 3
|
PENAWDAU’R NEWYDDION - 1.00
|
TRAC 4
|
EITEM NEWYDDION – CODI TAI YN LLANELWY - 0.40
|
TRAC 5
|
POBL IFAINC GWENT YN SÔN AM Y GYMRAEG - 1.35
|
TRAC 6
|
CYFLWYNO CAIS - 2.20
|
TRAC 7
|
DYFALU’R FLWYDDYN - 1.03
|
TRAC 8
|
CYMRAEG YN Y GOFOD - 0.50
|
TRAC 9
|
ADRODDIAD TYWYDD A FFYRDD - 1.03
|
TRAC 10
|
DARN O BREGETH - 3.56
|
TRAC 11
|
TWM ELIAS YN SIARAD AM BRYFED COP - 2.05
|
TRAC 12
|
HANES CATH DEW - 1.24
|
TRAC 13
|
CÂN WERIN - 1.42
|
TRAC 14
|
HANES LLYWELYN EIN LLYW OLAF - 3.50
|
TRAC 15
|
PONTYPRIDD AC UGANDA - 5.50
|
TRAC 16
|
TRAFOD Y NEWID YN YR HINSAWDD - 5.50
|
TRAC 17
|
DAL SADDAM HUSSEIN - 3.30
|
TRAC 18
|
BARDD YN TRAFOD EI BYWYD - 2.33
|
TRAC 19
|
TRAFOD PROBLEM - 6.12
|
TRAC 20
|
SYLWEBAETH AR GÊM RYGBI - 2.44
|
TRAC 21
|
DYSGU PLANT GARTREF - 4.08
|
Share with your friends: |