TAFODIAITH
Pa nodweddion sy’n awgrymu bod y gân yn perthyn i Forgannwg? Ar ôl gwneud yr ymarfer uchod, oes un gair rydych yn synnu ei glywed yn y fersiwn hwn o gofio mai cân o dde Cymru yw hon?
O! Mari, Mari cwyd, mae heddiw’n fore mwyn,
Mae’r adar bach yn tiwnio a’r gwcw yn y llwyn.
Hw mla’n! Hw mla’n! Hw!
O! Mari lân dy foch, mae nawr yn un o’r gloch,
Mae’n bryd i mi gael cinio ac amser bwydo’r moch.
Hw mla’n! Hw mla’n! Hw!
O! Mari tyrd sha thre, mae wedi amser te,
Fe ddaeth y da i’w godro gan frefu dros y lle.
Hw mla’n! Hw mla’n! Hw!
O! Mari, daeth yr haf, mae heno’n noson braf,
Addoi di ma’s i rodio oddi yma i Ffynnon Taf?
Hw mla’n! Hw mla’n! Hw!
YMADRODDION
mae’n bryd i mi; mae’n hen bryd iddo fo; mae’n well i ni.
YSGRIFENNU
Fy hoff gân.
Cymru – Gwlad y gân? Trafodwch.
CD1: TRAC 14
HANES LLYWELYN EIN LLYW OLAF
[Rhan o feirniadaeth y Dr Geraint Bowen ar gystadleuaeth y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a’r Cylch, 1982]
GEIRFA
archdderwydd gwaywffon farddol gwiw sofraniaeth
bwystfilaidd gosgordd cofleidio dinoethi ymaddasu
cymen haneswyr cyflafan nawdd y gyfundrefn
cynghori galargerdd dilys noddwr ymwared
dirprwy dychrynfeydd diwydrwydd gwâr ymosod
GWRANDO A DEALL
i) Beth oedd testun yr awdl?
ii) Ble mae Cilmeri?
iii) Beth ddigwyddodd yno?
iv) Ble claddwyd corff Llywelyn?
v) Beth ddigwyddodd i’w ben?
vi) Sut teimlai’r bardd, Gruffudd ab Yr Ynad Coch pan fu farw Llywelyn?
vii) Beth gollodd Cymru pan fu farw Llywelyn?
viii) Oedd Edward 1 wedi lladd yr holl feirdd?
ix) Pa fardd Saesneg oedd wedi ysgrifennu am y digwyddiad?
x) Pam roedd gosod ‘Cilmeri’ yn destun yn 1982 mor addas?
IAITH
a) Cysylltwch y gair ar y chwith â’r un cyfatebol ar y dde:
cymen treisgar
dilys anwesu
cyflafan ofnau
cofleidio gwir
ymwared trefnus
bwystfilaidd gwarchodlu
gwiw brwydr
dychrynfeydd addas
gosgordd achub
b) Diffiniwch ystyr y geiriau hyn yn Gymraeg:
cyflafan; gosgordd; noddwr; dinoethi; dilys.
c) P’un o’r diffiniadau sy’n briodol i’r geiriau hyn?
dirprwy; gwaywffon; cyflafan; noddwr; sofraniaeth; diwydrwydd
i) Hawl gwlad i reoli ei hun.
ii) Arf rhyfel a deflid.
iii) Gweithgarwch cyson.
iv) Brwydr waedlyd.
v) Person sy’n cymryd lle un arall.
vi) Rhywun sy’n helpu person arall drwy roi arian iddo.
TAFODIAITH
Mae’r Dr Geraint Bowen yn traddodi beirniadaeth ffurfiol o lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol. Wrth wrando arno, nodwch rai o nodweddion ei iaith sy’n adlewyrchu’r sefyllfa arbennig honno. Pa air o’r parau hyn fyddech chi’n eu defnyddio i ddisgrifio arddull y siaradwr?
hamddenol brwd
ymosodol tawel
heriol difater
diduedd cenhadol
TRAFOD
i) Pwy yw eich hoff gymeriad hanesyddol? Esboniwch eich dewis a nodi rhai o’r nodweddion sy’n apelio atoch yn ei gymeriad.
ii) Ydy hi’n bwysig bod ein hysgolion yn dysgu hanes Cymru? Trafodwch mewn grwpiau a chyflwynwch eich casgliadau i weddill y dosbarth.
iii) Gwnewch restr o’r ffeithiau rydych chi wedi eu dysgu am Llywelyn Ein Llyw Olaf wrth wrando ar Geraint Bowen.
YMADRODDION
y fath gyflafan; er gwaethaf; gan hynny / canys; fel y mae’n wiw i genedl wâr.
YSGRIFENNU
Ysgrifennwch am unrhyw gymeriad yn hanes Cymru neu yn hanes eich ardal.
“Dwli yw hanes.” Trafodwch.
CD1: TRAC 15
PONTYPRIDD AC UGANDA
[Alun Thomas yn cyfweld ag aelodau ‘Pont’ – y grŵp sydd wrthi’n datblygu partneriaeth rhwng Pontypridd a Mbale, tref yn Uganda]
GEIRFA
argyhoeddiad blaenoriaid unigryw
adnoddau gweledigaeth cyfrifiaduron
cyffwrdd â partneriaeth rhwydweithio
cysylltiad tlodi cyffrous
Cristionogol hyfforddi peirianwyr
effeithio swyddogion gwleidyddion
efeillio meddygaeth cefnogi
asiantaethau
GWRANDO A DEALL
i) Beth sydd wedi symbylu sefydlu ‘Pont’?
ii) Beth mae’r wraig o Ferthyr Tudful am ei wneud?
iii) Beth oedd ymateb y person o’r Cymoedd i’r ymwelydd o Uganda?
iv) Pa fath o gysylltiad sydd rhwng eglwysi’r ddwy dref?
v) Syniad pwy oedd sefydlu ‘Pont’?
vi) Sut mae ardal Pontypridd yn gallu helpu pobl Mbale?
vii) Beth welodd rhai o bobl Uganda am y tro cyntaf?
viii) Pwy ar wahân i’r eglwysi sy’n cydweithio yn y ddwy wlad?
IAITH
a) Gwrandewch ar y darn a phenderfynwch pa eiriau sy’n perthyn yn agos i’r geiriau hyn. [Mae’r geiriau yn yr un drefn ag yn y recordiad]
partner tlawd Crist swydd gweld meddyg cyfrif peiriant gwlad
b) Cysylltwch y gair / ymadrodd yn y golofn ar y chwith â’r diffiniad ohono ar y dde.
bwrw golwg helpu; cynorthwyo
partneriaeth cred sicr
argyhoeddiad edrych dros
cysylltiad gwyddor gwella iechyd
awydd bod heb arian
cefnogi eisiau gwneud neu gael rhywbeth
tlodi cydweithio
meddygaeth y berthynas rhwng dau beth
c) Gwrandewch ar y recordiad i ddarganfod ffurf luosog yr enwau hyn:
swyddog; blaenor; cyfrifiadur; peiriannydd; gwleidydd; asiantaeth.
TAFODIAITH
Yn eich barn chi, ydy Dewi Arwel Hughes yn frodor o Bontypridd? Ydy Alun Thomas o dde-ddwyrain Cymru? Nodwch eich rhesymau.
TRAFOD
i) Ar ôl gwrando ar yr eitem, trafodwch mewn grwpiau bach sut, yn eich barn chi, y gallai
Pontypridd helpu Mbale.
ii) Fasai’n well tasai Pontypridd yn efeillio â thref yn Ewrop? Trafodwch.
iii) Ai busnes eglwysi yn hytrach na llywodraethau yw’r gwaith a ddisgrifir?
|