IAITH
a) Cwblhewch y ddwy golofn isod trwy ychwanegu enw neu ansoddair yn ôl y galw.
Enw Ansoddair
dinas ………………
……………… trefol
gwlad ………………
……………… plwyfol
byd ………………
……………… cyfandirol
rhanbarth ………………
b) Gwir neu Anwir
i) ‘Noson Tân Gwyllt’ yw teitl cyfrol newydd Mari George.
ii) Dechreuodd hi ysgrifennu yn ei harddegau.
iii) Roedd ennill mewn eisteddfodau yn ei symbylu.
iv) Doedd hi ddim yn yfed pan oedd yn y coleg.
v) Cafodd ei magu mewn stryd Gymraeg ei hiaith.
vi) Mae Mari George yn briod ers dros flwyddyn.
vii) Mae hi wedi ysgrifennu llawer yn ddiweddar.
viii) Mae magu plentyn wedi newid ei hagwedd at fywyd.
c) Defnyddiwch y geiriau a ganlyn i gwblhau’r brawddegau:
bardd; awduron; dramodydd; beirniad; hanesydd; nofelydd; cofiannydd; newyddiadurwr.
i) Edward Gibbon (1737-94) oedd yr …………………….. a sgrifennodd ‘The Decline and Fall of the Roman Empire’.
ii) Roedd Saunders Lewis ac Islwyn Ffowc Elis yn …………….. tra gwahanol.
iii) …………………. oedd Charles Dickens.
iv) Dyma’r gerdd orau yn y gystadleuaeth, yn ôl y …………………..
v) James Boswell oedd ……………………. Dr Johnson.
vi) ……………….. a ddeuai o Stratford-upon-Avon oedd William Shakespeare.
vii) Roedd Tom yn ……………………. a sgrifennai’n gyson i’r Times a’r Guardian.
viii) Mae Edward Lear yn gallu bod yn …………………. doniol iawn weithiau.
TAFODIAITH
“Iaith niwtral ddeheuol ei naws”. Ydy hyn yn ddisgrifiad teg o iaith y siaradwr yn eich
barn chi?
TRAFOD
i) Beth rydych chi’n hoffi ei ddarllen?
ii) Tasai raid ichi ddewis un llyfr / awdur, beth / pwy fyddai? Pam?
iii) Pa fath o lyfr hoffech chi ei sgrifennu?
YMADRODDION
erbyn hyn; trwy gyfrwng; lot fawr o; troi â’i ben i lawr; eithriadol o dda; tueddu i.
YSGRIFENNU
Yr hen a ŵyr, yr ifanc a dybia. Cytuno?
CD1: TRAC 19
TRAFOD PROBLEM
[Cafodd Wyn a Megan Roberts eu siomi pan aethon nhw ar eu gwyliau i Weymouth. Mae Wyn yn disgrifio beth yn union a ddigwyddodd ac wedyn mae cyfreithiwr y rhaglen ‘Chwarae Teg’yn rhoi ei farn. Yn olaf, clywn ymateb y cwmni gwyliau]
NODYN I’R TIWTOR
Mae’r drafodaeth mewn tair rhan: 1. Natur y broblem
2.Ymateb cyfreithiwr
3.Ymateb y cwmni.
Awgrymir eich bod yn trafod y pwnc fesul rhan gan stopio’r recordiad ar ôl pob cyfraniad.
GEIRFA
cysylltu â Cyngor Twristiaeth Lloegr diffyg dŵr
dan draed fwrdd pencadlys
claear cynrychiolydd pedwar
esgusion cyd-fynd â diemwnt
cwmni coetys di-flas cadair
bychan tridiau
Rhan 2: Ymateb y cyfreithiwr
cyfanswm canllawiau bodoli
camarwain iawndal cyd-destun
yn benodol pennu
Rhan 2: Ymateb y cwmni
edifar adborth cadarnhaol
ewyllys da ysgogi
GWRANDO A DEALL
i) Ble aeth Mr a Mrs Roberts ar eu gwyliau?
ii) Sut aethon nhw yno?
iii) Nodwch 3 pheth oedd yn bod ar yr ystafell.
iv) Sut roedd y bwyd?
v) Beth aeth o’i le ar y dŵr?
vi) Oedd gan y cwmni gynrychioydd yn y gwesty?
vii) At bwy aethon nhw i gwyno?
viii) Beth wnaeth Mr Roberts yn union ar ôl mynd adref?
IAITH
a) Cysylltwch y gair ar yr ochr chwith ag un ar yr ochr dde:
diffyg prif swyddfa
pencadlys bai
claear cytuno â
cysylltu â llugoer
cyd-fynd â siarad â
b) Cwblhewch y brawddegau hyn trwy ddefnyddio’r geiriau a ganlyn:
cyfanswm; canllawiau; camarwain; pennu; iawndal; cyd-destun.
i) Cyn llenwi’r ffurflen, darllenwch y …………………. ar y cefn.
ii) Er y byddwn yn priodi eleni, dyn ni ddim wedi …………………. dyddiad.
iii) Gawson nhw ……………. ar ôl y ddamwain.
iv) Rych chi’n fy nyfynnu allan o ………………….
v) Prynais i chwe eitem. Faint yw’r …………………. ?
vi) Weithiau mae Tom yn ein…………….. trwy beidio â datgelu popeth.
c) Dyma rai amrywiadau yn iaith de a gogledd Cymru. Pa rai sy’n cyfateb?
De Gogledd
nawr bwrdd
angladd agoriad
llaeth geneth
allwedd rwan
bord pres
merch budr
arian llefrith
brwnt cynhebrwng
TAFODIAITH
Yn y darn hwn ceir dau berson, un o’r de-ddwyrain a’r llall o’r gogledd-orllewin, yn siarad.
Dyma rai o’r amrywiadau a glywch:
efo / gyda; ogla’ / gwynt; dŵr poeth / dŵr twym; ffordd allan / (ffordd ma’s).
Sylwch sut mae’r terfyniad –au / -ai yn amrywio > -e / -a.
Sylwch hefyd sut y defnyddir y Saesneg weithiau gan y siaradwyr i gadarnhau ystyr gair neu ymadrodd: cynrychiolydd / rep; cyfanswm / package; go deidi.
TRAFOD
i) Trafodwch a oes, yn eich barn chi, achos gan Mr a Mrs Roberts yn erbyn y cwmni teithio. Beth yw’r pwyntiau cryfaf sydd ganddyn nhw?
ii) Gwrandewch yn awr ar farn y cyfreithiwr. Ydych chi’n cytuno’n llwyr â’i farn? Beth, yn eich barn chi, y dylai’r cwmni ei wneud? Trafodwch mewn grwpiau.
iii) Gwrandewch ar ymateb y cwmni. Beth yw eich barn am eu hateb?
Share with your friends: |