YMADRODDION
o dan draed; braidd yn fudr; go deidi; yn benodol; ar ôl cryn drafod; y gorau posib.
YSGRIFENNU
Ysgrifennwch ar un o’r pynciau a ganlyn:
a) Gwyliau siomedig b) Cwyno c) Fe ges i fy siomi
CD1: TRAC 20 SYLWEBAETH AR GÊM RYGBI
[Huw Llywelyn Davies yn sylwebu ar y gêm rhwng Cymru a Seland Newydd yn 2006]
GEIRFA
ystlys yn dal â’r meddiant gosod wythwr gwrthymosod yr ochr dywyll llinell ddeg Y Crysau Duon anghyfreithlon bwlch enfawr camu
cic gosb cystadlu tiriogaeth ar y blaen
disgyblaeth trosiad ail reng gwthio
safle ryc(-iau) llinell grymus gwendid
tafliad
IAITH
a) Gwrandewch ar y sylwebaeth a phenderfynu ai gwrywaidd neu fenywaidd yw’r enwau hyn:
tîm cic llinell tacl ystlys ochr cae bwlch
b) Sonnir am sgrym “bymtheg metr i mewn o’r ystlys bellaf”. Cofiwch fod angen treiglo dechrau cymal adferfol o’r fath:
Roedd e’n byw .................................................. o’r capel (100 llath)
Mae’r stadiwm .................................................... o’r dref.(2 filltir)
Gwelais i Tom ........................................................... yn ôl.(3 mis)
Dw i wedi bod yno ..........................................................(100oedd o weithiau)
Chwaraeon nhw’r gêm ...................................................(dechrau’r flwyddyn)
Pasiodd e’r arholiad ...........................................................(rhywsut neu’i gilydd)
Ydych chi’n cofio’r termau mae’r sylwebwyr yn eu defnyddio ar gyfer y canlynol? Os nad ydych yn gallu cofio pob un, gwrandewch yn ofalus ar y sylwebaeth unwaith eto a nodwch y rhai aeth yn angof:
possession; counter-attack; the blind side; a throw; second row forward; a number eight; a conversion; a penalty; the 10 metre line; the touchline.
TAFODIAITH
Penderfynwch ai o’r de ynteu o’r gogledd mae’r tri sy’n siarad yn dod. Pa dystiolaeth sydd gennych?
TRAFOD
i) “Mae rygbi yn cael gormod o sylw yng Nghymru”. Trafodwch.
ii) Pryd buoch chi’n gwylio unrhyw fath o chwaraeon ddiwethaf? Trafodwch.
iii) Gwnewch restr o’r 15 safle mewn tîm rygbi.
iv) Nodwch bob term technegol yn ymwneud â’r gêm a glywsoch chi yn y sylwebaeth.
YMADRODDION
Y Crysau Duon; gwartheg duon Cymreig; mwyar duon; pobl ifainc; camau breision; Cymru – gwlad y menyg gwynion.
YSGRIFENNU
a) Fy hoff gêm. b) “Gêm a gofiaf am byth”. c) Mae gormod o chwaraeon ar y teledu.
CD 1: TRAC 21
[Trafod addysgu plant yn y cartref wrth i grŵp o blant a rhieni ymweld ag Amgueddfa Wlân Trefach]
GEIRFA
datgelu ymchwil undebau safon y dafol manteision anfanteision ymgyrch rhwygo dadansoddi dehongli cyfres
celf cynyddu yn gyfangwbl reswm ffurfiol ystod
oedran wrth
GWRANDO A DEALL
i) Beth mae llawer o rieni wedi penderfynu ei wneud?
ii) Sut mae undebau athrawon yn ymateb i addysg yn y cartref?
iii) Pa fanteision sydd wrth ymweld â’r amgueddfa?
iv) Pa arlunydd mae’r plant wedi bod yn dynwared ei waith?
v) Sawl brawd sydd gan Lowri Butterworth?
vi) Pa liwiau sydd yn llun Lowri?
vii) Sut mae’r amgueddfa’n helpu’r teuluoedd?
viii) Sut mae Kate Evans yn disgrifio’r berthynas â’r plant?
ix) Sut mae dod i’r amgueddfa’n helpu’r fam? Hawdd lleoli ei thafodiaith ai peidio? Pam?
x) Oes mwy neu lai o rieni’n addysgu eu plant gartref?
IAITH
a) Cwblhewch y brawddegau gan ddefnyddio’r geiriau hyn:
safon; cyfres; y dafol; rhwygo; cynyddu; ystod oedran; ymgyrch; yn gyfangwbl.
i) Roedd y rhieni wedi trefnu ……………… i geisio achub ysgol y pentref.
ii) Edrychais i ar ……………… o raglenni ar y teledu.
iii) Ar ôl rhoi’r holl ddadleuon yn …………teimlais fy mod wedi dewis yn iawn.
iv) Mae nifer y plant sy’n derbyn eu haddysg gartref yn ………………….
v) Dw i ddim yn cytuno â nhw ………………….
vi) Mae ………………… addysg yn gostwng yn ôl rhai.
vii) Oes darn arall o bapur ’da chi? Mae hwn wedi …………………….
viii) Roedd plant o …………………… 3 – 11 yn yr ysgol.
b) Sylwch ar y pâr: manteision / anfanteision. Nawr gwnewch barau tebyg o’r geiriau a ganlyn:
ffurfiol …………………
………………… ansefydlog
ufudd …………………
………………… gweddus
ystwyth …………………
………………… anwybodus
gweledig …………………
………………… ansicr
c) Esboniwch ystyr y canlynol yn Gymraeg:
ymgyrch; ymchwil; ffurfiol; cynyddu.
TAFODIAITH
Gwrandewch ar Kate Evans yn siarad. Ydy hi’n hawdd lleoli ei thafodiaith ai peidio? Pam?
TRAFOD
Pam, yn eich barn chi, mae Lowri Butterworth yn defnyddio rhai geiriau Saesneg – machine, cogs a wheels wrth ddisgrifio’r hyn mae hi wedi bod yn ei wneud yn yr amgueddfa?
i) Dydy hi ddim yn gwybod y geiriau Cymraeg
ii) Mae’r gweithgaredd wedi ei gyflwyno iddi yn Saesneg
iii) Saesneg yw iaith y cartref
iv) Rheswm arall
b) Mewn grwpiau bach, trafodwch a gwnewch restr o fanteision ac anfanteision addysgu plant gartref.
c) Beth yw manteision ac anfanteision addysg arferol?
YMADRODDION
fwyfwy; ar fy mhen fy hun.
YSGRIFENNU
Man ddiddorol yr ymwelais â hi.
Sut gallwn wella ein hysgolion?
Mae addysg yn paratoi at fywyd. Gwir neu anwir?
CD2: TRAC 1
TRAFOD Y FFILM ‘WIZARD OF OZ’
[Sgwrs am fersiwn newydd digidol o’r ffilm enwog]
Share with your friends: |