TAFODIAITH
Pa brawf sydd gennych wrth wrando ar y sgwrs fod y ddau siaradwr yn dod o’r gogledd?
TRAFOD
‘Mae gwarchodfeydd natur yn fwy o ddrwg nag o les.’ Trafodwch.
Gwnewch restr o’r enwau adar rydych chi’n eu gwybod. Cymharwch restrau eich gilydd a nodwch unrhyw enwau sy’n newydd i chi.
Rhaglenni gan naturiaethwyr ar y teledu. Eich barn?
YMADRODDION
byth a beunydd; y cwbl lot; treulio amser; gyda’r hwyr; yn union r’un peth.
YSGRIFENNU
Yr adar yn fy ngardd.
Ymweld â gwarchodfa natur.
Bywyd gwyllt ein hardal.
CD2: TRAC 5
SGWRS Â RAY GRAVELL AM ACTIO
[Y cyn-chwaraewr rygbi a darlledwr, Ray Gravell, yn sôn am ei yrfa fel actor]
GEIRFA
ben bore swyddogol cyflwynydd dynwared mynwesol portreadu disgyblaeth ta pwy bynnag rhwydd cynhyrchydd cyfarwyddwr prifardd plasty paradwys her hynaws penigamp boddhad greddfol
GWRANDO A DEALL
i) Ar ba adeg o’r dydd roedd Gaynor yn
siarad â Ray Gravell?
ii) Faint o hyfforddiant actio gafodd Ray?
iii) Ble a phryd actiodd e gyntaf?
iv) Pwy ofynnodd iddo ymddangos ar y teledu gyntaf?
v) Ydy actio’n hawdd, yn ôl Ray?
vi) Ym mha ddrama cafodd e ei ran fawr gyntaf?
vii) Pwy sgrifennodd y ddrama honno?
viii) Ble roedden nhw’n ffilmio?
ix) Oedd e’n hyderus pan ddechreodd e actio?
x) Pwy oedd wedi actio gyda Tele Sevalas?
xi) Beth oedd gwaith Richard Bonner?
IAITH
a) Pa air a glywsoch chi yn y darn ac a restrir isod sy’n cyfleu’r canlynol?
penigamp; paradwys; her; prifardd; hynaws; dynwared; plasty; greddfol
Gweithredu heb feddwl
Ardderchog
Dymunol
Rhywbeth anodd mae’n rhaid ei wneud
Lle perffaith
Tŷ anferth
Bardd buddugol yn yr Eisteddfod Genedlaethol
Siarad a symud fel rhywun arall
b) Ffurfiwch ferfenwau o’r enwau yn (i) ac ansoddeiriau o’r rhai yn (ii):
i) cynhyrchydd; her; portread; disgyblaeth; cyfansoddwr.
ii) mynwes; swyddog; greddf.
c) Beth yw’r ymateb cadarnhaol a negyddol (Ie / Nage etc.) i’r cwestiynau a gosodiadau
canlynol?
Welaist ti’r rhaglen neithiwr?
Am saith o’r gloch est ti?
Maen nhw yn y tŷ.
Yn y bath roedden nhw.
Ddylech chi ennill?
Fydd y plant yn dod?
Roedden ni’n hwyr ddoe.
Fuest ti allan neithiwr?
Faswn i’n ei hadnabod hi?
Teifion Davies?
Mae dau berson yn sgwrsio yn y darn hwn. Pa dystiolaeth sydd gennych i brofi bod un ohonynt yn dod o’r gogledd a’r llall o’r de? Nodwch eich rhesymau.
Ffurf dafodieithol ar ‘ynteu’ yn ne Cymru yw ‘ta’. Ar lafar mae ‘ni waeth pa /pwy’ > ta pa / ta pwy. Mae pwy bynnag /beth bynnag / p’un bynnag >ta pwy / ta beth / ta p’un. Hefyd mae ‘tua’ > sha. P’un o’r siaradwyr sy’n defnyddio’r ffurfiau hyn?
TRAFOD
Mewn grwpiau, rhannwch yr wybodaeth sydd gennych am Ray Gravell.
Cyfweld ag aelod arall o’r dosbarth gan ganolbwyntio ar ryw ddawn neu ddiddordeb sydd ganddo / ganddi.
Recordiwch gyfweliad â rhywun yn eich stryd / cymuned.
YMADRODDION
ben bore; yn y bore bach; oriau mân y bore; codi’n fore; o fore gwyn tan nos; bore oes.
YSGRIFENNU
Chwaraewyr / athletwyr sydd wedi gwneud enw mewn maes arall.
Drama deledu fwynheais i.
CD2: TRAC 6
TRAFOD Y DEFNYDD O ‘TI’ A ‘CHI’ YN GYMRAEG
[Trafodaeth am y gwahanol arferion wrth gyfarch pobl yn ‘ti’ neu’n ‘chi’]
GEIRFA
cymhleth sylwebydd cysylltu drwgdybio parch doethuriaeth aruthrol cyfoedion aelodau seneddol gwahaniaethu unigolyn amrywiaethau cymhlethdodau cenhedlaeth sefydlu trafferthion canolbwyntio ffeministiaid cymysgwch bodoli
GWRANDO A DEALL
i) Sut mae’r cyflwynydd yn disgrifio sefyllfa ‘ti’ a ‘chi’?
ii) Sut mae Gwion Rees yn cyfarch y rhan fwyaf o bobl?
iii) Sut mae Alun Wyn Bevan yn wahanol i Gwion?
iv) Sut roedd Alun yn cyfarch plant pan oedd yn athro?
v) Pryd bydd Alun yn teimlo’n anhapus?
vi) Sut mae’r sefyllfa’n haws yn Saesneg?
vii) Beth yw’r sefyllfa rhwng Alun Wyn Bevan a’i blant?
viii) Beth oedd yr esboniad a gafodd Gwion gan athro?
ix) Daearyddiaeth sy’n penderfynu patrwm defnydd ‘ti’ a ‘chi’?
x) Beth oedd arfer Alun Wyn Bevan wrth ddysgu oedolion?
IAITH
a) Pa ffurf (ti/chi) fyddech chi’n ei defnyddio yn y sefyllfaoedd hyn?
Cyfarch ffrind agos
Disgybl yn siarad ag athro
Siarad â phlentyn ifanc
Athro yn cyfarch dosbarth
Holi plismon ar y stryd
Siarad â’ch plentyn
Rhowch y ffurf 2il berson unigol neu luosog, yn ôl y gofyn:
dere …………………
………………… dos
gwnei …………………
………………… deuwch
est ti …………………
………………… gwnewch
dylet …………………
………………… gwyddoch
Cwblhewch y brawddegau hyn trwy ddefnyddio ffurf briodol yr 2il berson.
i) ……………. ti’n rhoi £30 am hwn, taset ti’n cael cyfle?
ii) Os ………….. di wrth yr eglwys am 7 o’r gloch, cei di lifft.
iii) Fe ddof i os ………………. chi.
iv) …………… chi’n gallu dod heno?
v) Pan ………………… di yno, fe weli di’r eglwys gadeiriol.
vi) …………………chi aros yma, os gwelwch yn dda?
vii) …………………ti’n ŵr bonheddig, baset ti’n agor y drws i mi.
viii) Pam ……………. ti ddim i’r ysgol ddoe?
ix) Os ydych am bryd da o fwyd, …………. i’r Ritz.
x) Pam …………… ti ddim yn y dosbarth neithiwr?
Share with your friends: |