Nodyn i’r tiwtor 5 cd 1: cynnwys 9



Download 0.67 Mb.
Page16/36
Date31.07.2017
Size0.67 Mb.
#25383
1   ...   12   13   14   15   16   17   18   19   ...   36

TRAFOD


Ydych chi’n teimlo’n hapus / hyderus yn defnyddio’r ddwy ffurf,‘ti’ a ‘chi’?

Holwch siaradwyr Cymraeg yn eich ardal am eu harfer wrth ddefnyddio ‘ti’ a ‘chi’ a dewch ag adroddiad yn ôl i’r grŵp.



YMADRODDION


Mewn rhai ardaloedd o’r gogledd defnyddir y ffurf ‘chdi’ yn lle ‘ti’ ac fe welwch y ffurf hon

bellach mewn llenyddiaeth dafodieithol.


YSGRIFENNU


Ar ôl siarad ag eraill, nodwch y sefyllfaoedd lle y byddwch chi nawr yn defnyddio ‘ti’ a ‘chi’.


CD2: TRAC 7
SGWRS RHWNG TOMOS MORSE A’R ACTOR IOAN GRUFFYDD


[Tomos Morse yn holi Ioan Gruffydd am ei waith ac yn rhannu rhai o’i brofiadau]

GEIRFA


clyweliadau cyfarwyddwr cyfweliad cysylltiad eisoes marchogaeth meithrinfa hyfforddi ysgol farchogion datblygu corfforol clefyd y gwair erchyll chwistrelliad tîn
urddo y Wisg Wen yr Orsedd ymestyn

GWRANDO A DEALL
i) Pam mae Ioan Gruffydd wedi dod adref?

ii) Sut cafodd e ran yn y ffilm?

iii) Ble dysgodd Ioan i farchogaeth?

iv) Beth oedd yr actorion yn ei wneud gyda’r nos tra yn Iwerddon?

v) O beth mae Ioan Gruffydd yn dioddef?

vi) Pam aeth e i’r Eisteddfod Genedlaethol?

vii) I ble mae Ioan yn mynd ar ôl gadael Caerdydd?

viii) Beth, yn arbennig, mae Dr Reed Richards yn gallu ei wneud?

ix) Pam na fydd e’n actio gyda Matthew Rhys?

x) Ydy e wedi derbyn cynnig i chwarae James Bond?


IAITH


Esboniwch yn Gymraeg y gwahaniaeth rhwng y parau hyn:

clyweliad - cyfweliad


marchogaeth - marchogion
tîn - pen ôl
shwd mae? - sut ydych chi?
estyn - ymestyn
hyfforddi - ymarfer
cyfarwyddwr - cyfarwyddyd
drwg - erchyll
Mae un o’r siaradwyr yn sôn am ‘Yr Iwerddon’. Ydy hyn yn gywir, a pha rai o blith y canlynol sy’n gywir neu yn anghywir?

Yr Alban; Y Teifi; Y Gymraeg; Yr Amwythig; Y Bala; Y Fenai

Cwblhewch y grid:

Gwlad Brodor Brodores Lluosog




Cymru Cymro Cymraes Cymry

Gwyddel


Eidalwyr
Lloegr
Pwyles

Almaenwr



TAFODIAITH


Mae llawer o eiriau, ymadroddion a phatrymau yn iaith y ddau siaradwr sy’n nodweddiadol o Gymraeg llafar de Cymru. Nodwch y rhain.

TRAFOD


i) “Mae’r sgwrs yn anffurfiol iawn rhwng dau berson sy’n adnabod ei gilydd yn dda”. Sut byddech chi’n cyfiawnhau neu yn gwrthbrofi’r gosodiad hwn. Nodwch eich tystiolaeth.

ii) Siaradwch â’ch partner am eich hoff ffilm / actor / actores.

iii) Ydy Cymry wedi gwneud llawer o gyfraniad i fyd ffilmiau?

iv) Ydych chi o’r farn y byddai Ioan Gruffydd yn addas ar gyfer rhan James Bond? Nodwch eich rhesymau.


YMADRODDION


Mae si ar led; mae hanes ar gerdded; mae sôn bod; mae achlust fod; mae’r stori’n dew fod…

YSGRIFENNU


Taswn i’n actor, baswn i’n hoffi…….

Fy hoff actor / actores







CD2: TRAC 8
BETI GEORGE YN CYFWELD Â’R DR GWYNFOR EVANS


[Beti George yn siarad â’r diweddar Dr Gwynfor Evans am y Cynulliad, mewnfudwyr a’r iaith Gymraeg]

* Awgrymir eich bod yn ystyried Trafod i) cyn gwrando ar yr uned hon.

GEIRFA


galluogi gwleidydda cenhadu dros llywydd heddychwr perfeddion amherthnasol taeogrwydd affwysol Cynulliad adfer hollt mewnfudwyr lleiafrif trefnydd llawn amser ymroi meddyginiaeth

GWRANDO A DEALL
i) Beth oedd gwaith pob dydd Gwynfor Evans?

ii) Pam aeth i fyw i Sir Gâr?

iii) Beth sy’n bod ar y Cymry, yn ôl Gwynfor?

iv) Beth oedd e’n gobeithio y byddai’r Cynulliad yn ei gyflawni?

v) Beth oedd ei farn am yr honiad bod sefydlu’r Cynulliad wedi hollti Cymru?

vi) Beth oedd ei farn am fewnfudwyr?

vii) Faint o fewnfudwyr sydd yn Sir Fôn?

viii) Beth oedd nod mudiad ‘Pont’?


IAITH


a) Yn y darn fe glywch y berfenw ‘gwleidydda’. Pa ferfenwau yn gorffen ag –a sy’n dod o’r enwau a ganlyn:

cardod; mwyar; diod; gwledd; merlod; busnes; cinio?

b) Pa eiriau sy’n gyfystyr yn y ddwy golofn?


hollt sicrwydd
perfedd dybryd
meddyginiaeth gwaseidd-dra
affwysol canol
galluogi moddion
hyder rhwyg
taeogrwydd hwyluso
c) Yn y cyfweliad mae Gwynfor yn sôn am ganrannau (%). Dysgwch: 20% - ugain y cant; 40% - deugain y cant; 60% - trigain y cant. Beth yw 80%; 100%?

TAFODIAITH


Beth yn eich barn chi yw oedran y siaradwr yn y cyfweliad hwn? Pa brawf sydd gennych i ategu eich barn? Faint o ôl tafodiaith sydd ar ei iaith lafar?

TRAFOD


i) * Casglwch wybodaeth am Gwynfor Evans. Pob aelod o’r dosbarth i ychwanegu brawddeg at y darlun yn ei dro.

ii) Oes digon o gefnogaeth i fewnfudwyr sydd am ddysgu Cymraeg? Awgrymiadau!

iii) ‘Mae’r Cynulliad yn gwneud gwaith da’. Trafodwch.

YMADRODDION


ym mherfeddion y wlad; perfedd nos; mynd i berfedd rhywbeth.

YSGRIFENNU


Portread o wleidydd pwysig.

Cymwynaswyr y Gymraeg.



CD2: TRAC 9

SYLWEBAETH PÊL-DROED


[Disgrifiad o’r gêm rhwng Cymru ac Ynys Cyprus yn 2006]

GEIRFA


meddiant gwthio effeithiol cryfder cymorth safon ymosod cyflymdra rhes cyd-chwarae sialens sgoriwr canfod partneriaeth dathlu torf rhwyd

Download 0.67 Mb.

Share with your friends:
1   ...   12   13   14   15   16   17   18   19   ...   36




The database is protected by copyright ©ininet.org 2024
send message

    Main page