c) 80% - pedwar ugain y cant; 100% - cant y cant.
c) Y ffurfiau cywir yw: oddi ar; oddieithr; oddi wrth; oddi am.
b) Sylwch fod y geiriau sy’n gorffen yn
-eb; -fa; -aeth i gyd yn fenywaidd tra bod y rhai sy’n gorffen ag
-wch; -edd yn wrywaidd.
c) ar ddamwain ar siawns
ar bigau’r drain yn bryderus ac anghysurus
â’i
wynt yn ei ddwrn ar frys mawr
bod â dwylo blewog bod yn lleidr
ar gyfeiliorn ar grwydr
at ei gilydd ar y cyfan
prynu cath mewn cwd mentro heb sicrwydd
heb na bw na be heb yngan gair
yn ei unfan heb symud
ceffyl blaen un sy’n hoffi arwain
CD2: TRAC 11
a) yn llydan agored –
ar agor led y pen; calon yn curo’n drwm – â’i galon fel gordd ;
roedd yn hawdd iddo – nid oedd drafferth yn y byd; diflannwch, ferch – o’r golwg, ferch;
safodd lle roedd e – arhosodd yn ei unfan; cerdded heb sŵn – cerddodd ar flaenau’i draed;
rhewodd ei waed – fferu am eiliad; y cythraul! – y gwalch!
b) diolch i’r drefn; aeth at y ffenest; erfyn am gael; dal di atyn nhw; gwrando ar ei galon;
gafael yn; cau am
c) fferu – rhewi; bwtri – pantri; dudew – tywyll; ceryddu - dwrdio; gruddiau – bochau;
cilagored – hanner agored; gordd – morthwyl pren; dwrn – bwlyn; gwalch – dihiryn.
CD2: TRAC 12
a) Roedd e’n rhyfeddol o ddewr yn wyneb y gelyn. Siaradais ag ef aml i dro yn y pentref.
Dw i ddim wedi bod yno ers tro byd. Roedd pâr da o esgidiau am fy nhraed.
Mae Eferest yn glamp o fynydd.
b) gobeithio – hyderu; sydyn – disymwth; symud –mudo; ers amser – ers tro byd;
tlawd –llwm / moel; chwerwder – surni; anghymarol – dihafal; het fawr –clamp o het
c) DYMUNOL: ffraeth; caredig; galluog; cymwynasgar; hynaws; siriol.
ANNYMUNOL: twp; cwynfanllyd; swrth; byrbwyll; cybyddlyd; ffiaidd.
CD2: TRAC 13
a) Hen bentref yw Cefn-bryn-brain. [Anwir]
Doedd dim diwydiant yn yr ardal. [Anwir]
Mae’n sefyll yn ymyl Cwmllynfell. [Gwir]
Roedd achos Methodistaidd yng Nghwmllynfell yn amser Cromwell. [Anwir]
Dydy’r siaradwr ddim yn byw yno nawr. [Gwir]
Penderfynodd y Swyddfa Gymreig adleoli’r pentref. [Gwir]
Mae’r siaradwr wrth ei fodd â’r penderfyniad. [Anwir]
b) diwydiant – y gwahanol fannau gwaith mewn ardal.
diwylliant – y pethau sy’n difyrru pobl ac sydd o ddidordeb iddynt.
comin – tir sy’n eiddo i gymdogaeth gyfan.
cae – darn caeedig o dir ac arno borfa.
efengylu – ceisio ennill pobl i ffydd arbennig.
darlithio – siarad ar bwnc arbennig er mwyn diddanu neu addysgu.
diwygiad – ennill llawer o bobl i grefydd.
chwyldro – newid pethau mewn gwlad trwy rym grwpiau pwyso.
c) Enghraifft : Ers llawer dydd roedd mynd ar y pyllau glo yn y cymoedd. Roedd y capeli a’r tafarnau
dan eu
sang a phobl yn gweithio Sul, gŵyl a gwaith. Yn y pwll, dibynnai dynion ar nerth bôn braich i
ennill bywoliaeth. Ond erbyn hyn mae’r pwll wedi mynd â’iben iddo ac mae popeth yn y gymdeithas ar
drai. Mae teuluoedd yn ei chael hi’n anodd cael dau benllinyn ynghyd. Does ond gobeithio y daw tro ar
fyd. Os digwydd hynny bydd pawb ar ben eu digon.
CD2: TRAC 14
a) cylchrediad – y nifer o gopïau o’r papur a werthir; bygythiad – rhywbeth sy’n peryglu eich sefyllfa;
di-ben-draw – heb ddiwedd; golygydd – y person sy’ngyfrifol am gynnwys papur newydd;
angerddol – teimlo yn gryf iawn; argraffiad – rhifyn o bapur a anelir at ardal arbennig.
b) i) cyfeirio (berfenw ymhlith enwau)
ii) traddodiad (y lleill yn cyfeirio at amser)
iii) cyfeiriadau (enw, tra bod y lleill yn ansoddeiriau)
iv) golygu (y lleill yn cyfeirio at newid maintrhywbeth)
c) adlewyrchiad; ager; angerddol; canu; cenedlaethol;chwarae; golygu; lafant; Llanelli; ras;
traddodiad; trosglwyddo; thus.
CD2: TRAC 15
a) Fyddai e byth yn twyllo, fyddai e?
Yng Nghaerdydd roedd e’n gweithio, yntefe?
Does dim arian ’da nhw, oes e?
Fe brynodd e’r ceffyl, on’d do fe?
Ddylai e ddim siarad fel ’na, ddylai e?
Dw i’n iawn, on’d ydw i?
Dwyt ti ddim yn credu hynny, wyt ti?
Mi ddaw o rwan, oni ddaw?
b) i) cywir ii) anghywir: y Swyddfa Gymreig iii)anghywir: Bwrdd Croeso Cymru iv) cywir v) cywir
vi)anghywir: delyn deires Gymreig
c) amaethyddiaeth > amaethyddol; diwydiant >diwydiannol;
gwlad > gwledig / gwladol / gwladaidd /gwladgarol / gwlatgar / gwladwraidd;
mynydd >mynyddig / mynyddog; bryn > bryniog.
Share with your friends: