CD 1: TRAC 3
Diolch Geraint. Noswaith dda. Yn y newyddion heno mae rhai pobol ifanc yn meddwl ei bod hi’n cŵl i gael ASBO. Dyna mae gwaith ymchwil newydd yn ei awgrymu. A dydy petha’n gwella dim i fobol ifanc – heno mae adroddiad arall yn deud mai ieuenctid Prydain ydy’r gwaetha yn
Ewrop am neud dryga. Hefyd ar y newyddion, mam ifanc o Abertawe yn euog o ganiatáu marwolaeth ei babi blwydd oed fuodd i’w chyn gariad eisoes wedi cyfadde ei lofruddio. Dyn o flaen Llys y Goron,Yr Wyddgrug wedi ei gyhuddo o gipio a threisio merch ifanc yn Wrecsam bron i bythefnos yn ôl. Cynllunia ar y gweill i ddatblygu Marina Pwllheli bron i flwyddyn a hanner ers i gynllunia erill gael eu gwrthod oherwydd pryderon lleol. Cynghorwyr Dinbych yn gofyn am fwy o arian i wneud yn siwr y bydd prydau bwyd ysgol ar gael yn y sir yn y dyfodol. A byddwch ar
eich gwyliadwraeth rhag ofn y cewch chi garcharor yn y post! Gewch chi wbod mwy am naw, a dyna chi benawdau’r newyddion – arhoswch efo ni ar C2.
CD 1: TRAC 4
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn cynnal ymgynghoriad ar eu cynlluniau datblygu lleol ar hyn o bryd, sy’n cynnwys y datblygiad posib o dros wyth gant o dai newydd ar ochor yr A55, rhwng tre Llanelwy a Pharc Busnes y dre, ond mae ’na wrthwynebiad yn lleol i’r awgrym. Mae trigolion
Llanelwy yn pryderu y bydde cymaint o dai newydd, i bob pwrpas yn dyblu maint y dre ac maen nhw’n dadle nad oes ’na ddigon o wasanaethe ac adnodde’n lleol i ymdopi â’r galw ychwangol. Mewn datganiad, mi ddywedodd Cyngor Sir Ddinbych nad ydy’r cynllunia yn rhai pendant ar hyn o bryd a bod gan bobol yr ardal hyd at y 1af o Ragfyr i roi barn ar yr argymhellion.
CD 1: TRAC 5
Mae grŵp ni o ffrindiau wedi dod o pob gwahanol ysgol gallwch chi feddwl o. Ni fel ‘the outcasts’ o pob ysgol a ... rywfodd, rywsut, ni jyst gyd wedi bennu lan yn siarad Cymraeg gyda’n gilydd, jyst allan o arfer fel bydd pobol yn siarad Saesneg gyda’i gilydd allan o arfer. Felly, does dim byd od ini bod ni yn siarad Cymraeg tu fas ysgol, jyst sort o arferiad yw e – you know, dim byd allan o’i le.
Y peth mwyaf od yw siarad Saesneg gyda’n gilydd. S’no fi’n teimlo’n iawn os ni’n siarad Saesneg gyda’n gilydd.
Yn ... yn wreiddiol wnes i dod o teulu Saesneg ond wnaeth mam dysgu Cymraeg a danfon ni gyd, y tair o ni, i Ysgol Meithrin Cymraeg ... ym, a wedyn – so mae dad, oherwydd bod e wedi, sort o, dod i’r arfer o glywed Cymraeg, mae fe’n deall beth mae pobol – beth ni’n dweud ond dyw e ddim yn gallu ymateb yn ôl trwy’r Gymraeg.
Os ni ddim yn siarad Cymraeg, bydd neb arall yn, a w i’n teimlo fel os ni yn siarad Cymraeg bydd fwy o pobol yn siarad Cym . . gweld ni’n siarad Cymraeg a wedyn bydd nhw yn cwestiynu fel: A dyle fi fod yn siarad Cymraeg? A wedyn, gobeithio, os mae fel plant ysgol ni yn dechre siarad Cymraeg gyda’i gilydd, a tu allan ysgol a mae mwy o pobol . . os mae Ysgol Uwchradd arall Cymraeg yn agor, bydd hwnna’n gwell ar gyfer Casnewydd. Bydd fwy o ethos Cymraeg yn dod a gobeithio bydd Cymraeg yn dod nôl i Gwent achos mae Gwent y rhan o Cymru sy’n fwya Saesneg mewn Cymru, a ... ym ... o’r Gogledd rydyn ni’n cael ein gweld fel pobol Saesneg a .. s’no ni ddim achos ni yn siarad Cymraeg.
CD 1: TRAC 6
Helo ’na, bobol annwyl. Shwd i chi? Wel, on’d yw hi’n dywydd hyfryd? Does dim byd yn well na tamed o rew yn y bore ac awyr iach a heulwen am yn ail, be fwy allwn ni ofyn amdano? Shwd i chi gyd? Wedi treulio’r penwythnos lawr tua Caerdydd ’na chi, a wyddoch chi be’, efo’r
Ffermwyr Ifanc, ynde, a’r Jonesiaid. Alla i ddim gofyn am fwy, ’na alla’?
’Da chitha gobeithio wedi cael wythnos fach go lew a mae’r hydref yn brysur fynd eto ac mae ’na, .... a wyddoch chi be, y siope ’ma – Dolig, Dolig yw popeth. Yn wir i chi, os gewn ni iechyd dyw’r tymhore hyd yn oed ddim mor bwysig. A chi’n mbod, dw i ar “Ar eich cais” ’ma ers rhai
blynyddoedd rwan ond ches i rioed y fath y fraint â heddiw, neu heno ddylwn i ddeud, a chael llythyr agoriadol ... oddi wrth un o gewri’r genedl, a gŵr sydd yn byw ym mro Ddyfi ac yn uchel ei barch, un o’n beirdd godidoca’.
“Annwyl Dai”, meddai’r llythyr, “cyfarchion i’m gwraig Eirwen Jones, Blaenplwyf Uchaf, Aberangell, oddi wrth y gŵr, Dafydd Wyn Jones. Mae Eirwen yn bedwar ugen ar y 7fed o Dachwedd”. Ac Eirwen annwyl, ’dych chi ddim yn edrych hynny, ’na dach, na Dafydd o ran hynny. Daw’r cyfarchion hefyd oddi wrth y plant, yr wyrion, a’r wyresa. Hoffe glywed Côr Gore Gles ac Aled Wyn Davies yn canu Eryr Pengwern. Diolch yn fawr. Ac, wrth gwrs, ’di Pengwern ddim ymhell iawn o Blaenplwyf yn nacdi? Hyfryd Dafydd ydy cael gair oddi wrthoch chi ac fe gewch â chroeso calon – dyma nhw i chi, Core Gles ac Aled.
CD 1: TRAC 7
Am yr awran nesa’ awn am dro law yn llaw ar hyd cyntedda cof y flwyddyn, mond i’n atgoffa ein hunain cymaint ’da ni ’di anghofio. Dyma’r flwyddyn pan oedd David Beckham yn gwisgo sarong, roedd A. A. Gill yn galw bob Cymro yn “ugly troll” ac fe agorodd Ann Summers siop yng
Nghaerdydd. Dyma’r flwyddyn hefyd pryd fu rhaid i’r Arlywydd Clinton gyfadde ei berthynas hefo Monica Lewinsky. Fe benderfynwyd adeiladu cynulliad ym Mae Caerdydd ac roedd Catatonia wedi creu anthem i herio A. A. Gill, “Everyday when I wake up I thank the Lord I’m Welsh”. Roedd rhaid i Ron Davies ymddiswyddo wedi helynt ar Gomin Clapham – “It was an error of judgement on my part which put myself in a position where I could be the victim of a crime’. Roedd Ioan Gruffudd yn un o sêr y byd teledu a ffilm, diolch i Horatio Hornblower a Titanic.
“Wedyn pan ddes i lan … o’n i’n eitha siomedig ... O, cer o fan hyn, ro’n i’n mynd i chwalu … chi’n gwbod, y stori i fi wedyn. O’n i wedi anghofio mod i ynddo fe…o’n i’n mwynhau y stori garu ac yn sydyn iawn … a dyna fe’.
CD 1: TRAC 8
Am y tro cyntaf erioed fe glywyd iaith y nefoedd yn y gofod . . .
Dwi wedi bod yn paratoi at y daith yma ers amser maith ac o’r diwedd mae o wedi dod . . .
Un o ddigwyddiade hanesyddol 1998 oedd taith y llong ofod Columbia. Nid y daith ei hunan – ’doedd llongau gofod wedi hen arfer crwydro i’r gofod am drip rownd y byd a dychwelyd yn ddiogel? Beth oedd yn arbennig am y daith arbennig yma oedd y criw, wel, un o’r criw beth bynnag. Roedd Dafydd Rhys Roberts yn byw yng Nghanada ond â theulu yn hannu o Gwm Rhymni, ac uchelgais Dafydd oedd bod y cynta i siarad Cymraeg o’r gofod. Wel, yn 1998, fe lwyddodd i neud hynny.
A sôn am y gofod, fe ddychwelodd John Glenn yno ym 1998. Glenn oedd yr Americanwr cynta i’r gofod ac yn ystod y flwyddyn hon fe fentrodd yn ôl ar waetha’r ffaith ei fod yn 77 mlwydd oed, yr hyna ’rioed i adal y ddaear ’ma.
Share with your friends: |