Ac mae’n bleser gennyf yn awr alw ar y Dr Geraint Bowen, y Dirprwy Archdderwydd, i draddodi’r feirniadaeth ar ran ei gydfeirniaid ac yntau.
Y testun a osodwyd i’r beirdd yng nghystadleuaeth y Gadair eleni oedd ‘Cilmeri’. Pentref bach ym Mhowys yw Cilmeri ac mae’n enwog am mai yno ar lan afon Irfon, yn ôl ein haneswyr, yr ymosodwyd yn ffyrnig ar Lywelyn yr Ail, Tywysog Cymru, a’i osgordd, gan filwyr Edward y Cyntaf ac o leiaf un Cymro ar yr unfed ar ddeg o Ragfyr, 1282, a’i ladd yn fwystfilaidd. Llywelyn ap Gruffudd, Llywelyn ein Llyw Olaf, oedd y tywysog hwnnw. Claddwyd ei gorff yn Abaty Cwm Hir a danfonwyd ei ben i Lundain a’i osod ar waywffon ar ben Tŵr Llundain, ac medd y croniclydd,
‘Ac yna y bwriwyd holl Gymru i’r llawr’.
Canodd bardd Llywelyn, sef Gruffudd ap yr Ynad Coch, alargerdd frawychus o emosiynol a chymen ei chrefftwaith i’w noddwr tywysogaidd. ......
Roedd lladd Llywelyn yn golygu bod Cymru wedi colli ei sofraniaeth wleidyddol, canys ym mherson Llywelyn y trigai’r sofraniaeth honno. Peth arall a oedd yn ddychryn i’r bardd oedd y posibilrwydd y deuai nawdd traddodiadol y tywysogion i ben ac y peidiai’r gyfundrefn farddol.Yn wir, roedd marw’r prif noddwr, Llywelyn, yn gymaint o hunllef i’r genedl nes i fyth dyfu bod Edward y Cyntaf wedi llofruddio beirdd Cymru yng Nghastell Biwmaris gan nodi’r dyddiad ar y pumed ar hugain o Fawrth yn 1296. Roedd y Cymry, mae’n ymddangos, yn dal i gofleidio’r myth yma yn y ganrif ddiwethaf, canys yn Eisteddfod Dinbych yn 1792 testun yr awdl ydoedd ‘Cyflafan y Beirdd gan Edward y Cyntaf yng Nghastell Biwmaris’, ac mae gan y bardd Mynyddog gerdd ar yr un testun lle mae’n dweud bod Ceridwen wedi wylo wrth weld y fath gyflafan. Mae’r bardd Seisnig, Thomas Gray, o’r ddeunawfed ganrif yn ei gerdd ‘The Bard’ hefyd yn cyfeirio ato fel petai’r hanes yn ddilys.Y gwir ydyw i’r beirdd yma addasu i’r sefyllfa gymdeithasol a gwleidyddol newydd a chafwyd cyfnod o ddiwydrwydd llenyddol eithriadol er gwaetha’r dinoethi gwleidyddol a marw Llywelyn, cadarnllew Gwynedd, Brenin Aberffraw a Thywysog Cymru.
Fel y mae’n wiw i genedl ystyriol a gwâr ei wneud, byddwn eleni, saith can mlynedd i’r flwyddyn y lladdwyd ef, yn uno fel cenedl i goffáu Llywelyn. Gan hynny, mae’r testun yn amserol ac yn un da.
CD 1: TRAC 15
Bore da i chi a chroeso i rifyn arbennig o ‘Bwrw Golwg’ o Uganda gyda finne Alun Thomas.
Dyma wasanaeth mewn eglwys wledig yn y bryniau uwchben tref Mbale yn ne ddwyrain Uganda. Mae gan yr ardal hon gysylltiad arbennig gydag un o gymunede cymoedd y de. Mae pobol ardal Pontypridd wedi sefydlu partneriaeth unigryw i gynorthwyo pobol tlota un o wledydd Affrica, a hynny trwy gyfrwng mudiad o’r enw ‘Pont’. Yn gynharach eleni fe ges i’r cyfle i fynd i Uganda gyda rhai o aelodau’r mudiad wrth iddyn nhw gwrdd â’u partneriaid o rai o eglwysi Mbale.
Mae’r cyfan yn dod o’r awydd i gyffwrdd â’r sefyllfa o dlodi yn y . . hynny yw, dyna yw grweiddyn y cyfan i gyd, yr argyhoeddiad yma bod hi’n ... bod hi ddim yn iawn bod pobol yn marw . . .
Yno hefyd, criw o rai o eglwysi Merthyr Tudful yn cael eu profiad cyntaf o fywyd yn y fath dlodi.
Gobithio byddwn i yn gallu rhoi support i’r bobol ’ma mewn pob math o ffordd, yn enwedig yn Gristionogol, rhoi help i’r bobol yma i gario mlaen a gweld bod rhywun yn caru nhw a gallu helpu nhw.
Ac fe fyddwn ni’n clywed am yr ymateb yn y cymoedd wrth i bobol o Uganda gael profi bywyd yng Nghymru am y tro cyntaf.
Dw i tamed bach yn embarrassed wrth ddangos iddyn nhw yr holl adnodde sy gyda ni a maen nhw jyst ... maen nhw methu credu’r peth.
Croeso i’r Cymry wrth iddyn nhw gyrraedd tref Mbale.Y lle cynta iddyn nhw fynd oedd Eglwys First Baptist. Mae’r eglwys hon wedi efeillio ag Eglwys Bedyddwyr Temple ym Mhontypridd gyda swyddogion y ddwy eglwys yn chwarae rhan flaenllaw ym mhartneriaeth ‘Pont’. Un o flaenoried Eglwys Temple yw Cadeirydd ‘Pont’, Dewi Arwel Hughes.
Mae ‘Pont’ yn cychwyn o weledigaeth un person sydd yn feddyg teulu yn Pontypridd a’r weledigaeth yma o drio cysylltu tre a chylch yn Affrica efo tre a chylch yng Nghymru, a’r syniad ydy fod y gymuned gyfan, felly, yn cysylltu efo’i gilydd. Mae i bob cymdeithas wahanol agwedde on’d oes? Wedyn . . yn ein cymuned ni mae ’na feddygaeth, mae ’na addysg, ysgolion, mae ’na eglwysi, mae ’na beirianwyr, mae ’na bobol sy’n arbenigo mewn cyfrifiaduron .... bob math o sgilia sydd mewn cymdeithas. Ac, mewn lle fel Affrica, mae ’na angen mawr am lot o’r sgilia ’ma, felly. Y syniad ydy, bod ni’n trio cysylltu y sgilia ’ma efo’i gilydd yn ein cylch ni a wedyn bo ni’n cysylltu efo’r un sgiliau sydd ar gael, os maen nhw yma i ryw radde, â’r cylch yn Affrica, a’r syniad ydy bod ni’n rhwydweithio’r holl beth, wedyn ... bod y rhwydwaith meddygol yn cysylltu efo’r rhwydwaith feddygol yn fan yma, ac yn y blaen.
A’r bwriad yn gyffredinol yw i helpu pobol yn fan hyn i helpu eu hunain, fel petai?
Wel, mae’r cyfan yn dod o’r .... awydd i gyffwrdd â’r sefyllfa o dlodi yn y pen – hynny yw, dyna yw gwreiddyn y cyfan i gyd, yr argyhoeddiad yma, bod hi ... bod hi ddim yn iawn bod pobol yn marw o dlodi, ac mae hynny yn wir yn y fan yma …a dyna’r ‘bottom line’ felly a mae’r holl beth wedyn yn cyfeirio tuag at hwnna.
Mae’r berthynas yn beth newydd ... mae’n wych, mae pobol Mbale mor gyffrous .... lle bynnag chi’n mynd mae bobol yn sôn am y berthynas, mae’r bobol wedi croesawu ymwelwyr o Bontypridd i’r pentrefi .... mae’r pobol yno wedi cyffroi ... mae ’na rai sydd heb weld person gwyn o’r blaen. ’Da ni’n dysgu ffyrdd newydd ... mae e’n mynd i fod yn brofiad gwych.
Mae’r ymweliad hwn yn cysylltu eglwysi Pontypridd ag Mbale ond mae’r bartneriaeth yn bodoli ar sawl lefel, gydag athrawon, peirianwyr a gwleidyddion y ddwy gymuned yn cydweithio. Mae ’na bwyslais hefyd ar gydweithio meddygol.
Un broblem fawr mewn lle fel hyn ydy does ’na ddim gwasaneth meddygol o gwbl, cynhwysfawr.
Does ’na ddim data yn cael ei gadw ar bobol i wybod beth ydy lefel neu stad iechyd pobol yn y
cylch. Wedyn un peth ’da ni wedi bod yn trio ei wneud yw cefnogi ein partneriaid yn y fan ’ma ....
Hwyrach y dyliwn i fod wedi dweud mai nid ni sydd wedi dod i mewn yma i sortio pobol allan ....
felly be ’da ni wedi’i wneud ydy dod i ffeindio ffrindiau yn y fan ’ma ac maen nhw, fel mae’n
digwydd bod, yn cynrychioli gwahanol asiantaethau gwirfoddol ac yn y blaen yn y fan ’ma.
Be ’da ni’n wneud ydy helpu ein partneriaid i hyfforddi pobol i wneud gwaith iechyd syflaenol