CD 1: TRAC 20
I’ch atgoffa chi, pymtheg metr mewn o’r ystlys bella o’r sgrym ’na wedi troi ond Cymru yn dal â’r meddiant. Richie McCord, ydy e ’di hennill hi? Na, Dwayne Peel sydd â hi. Peel te, i Jones, Jones â phas hir i Shane Williams. Mae’n cael ei ddal gan Luke McAllister a mae ’di gosod hi nôl yn berffeth. Y tacl gan Sualo, yr wythwr, gwthio grymus gan y Cryse Duon. Maen nhw ’di cael y meddiant hefyd ac yn gwrth-ymosod ar yr ochor dywyll fan hyn, i Sivivatu. Lan ar linell dde Seland Newydd, pymtheg metr, deg metr mewn o’r ystlys agosa. Byron Kelleher .... Peel yno yn y man, Kelleher yn codi ar ei draed, y dacl gan Shane Williams. Y Cryse Duon yn aros – p’un a o’n nhw ’di cadw’u gafael ar honna’n anghyfreithlon. Conrad Smith â’r bêl i Carter .... Carter yn gweld bod yna fwlch enfawr .... yn camu mae Richie Gere ond yn cyrraedd gynta mae Kevin Morgan. Bwysig fod y gic yma’n cyrraedd yr ystlys a mae’i yn .... ar linell ddeg Cymru.
Yn amlwg, falle, Seland Newydd wedi gweld gwendid yn amddiffyn Cymru achos nag oedd y gic wedi cael ei hanelu at yr ystlys ond lawr genol y cae. Kevin Morgan mas o’r safle. Shane Williams wedi cael ei ddal yn genol y cae. Rhaid ail-drefnu os oes rhywun yn cael eu dal yn y rycia ’ma, yn enwedig tu ôl i’r sgrym.
Oedd hi’n gic ddiddorol cofia. Oedd hi’n ddiddorol achos oedd hi’n gic dda hefyd. Oedd e ’di gweld y bwlch ac a’th amdano fe a whare teg, ti’n gwbod. Maen nhw’n dodi’r bêl nawr mewn i’r llinell.
Tafliad Anton Oliver, y bachwr ar linell ddeg y Cymru ... a Seland Newydd, yr ail reng, Keith Robinson dwi’n credu, yn cael ei dynnu i’r llawr yn anghyfreithlon a chic gosb i Seland Newydd.
Wel, mae’n mynd i fynd i fod yn anodd nag yw e drwy gydol y prynhawn – tîm gore’r byd. Mae raid, mae disgyblaeth yn mynd i fod yn holl bwysig a dyma ni, Robinson ac Allie Williams yn cystadlu am y bêl a ’da ni’n tynnu nhw lawr.Tan maen nhw yn yr awyr ’da ni’n gwbod y rheolau. Smo ni’n moyn rhoi cyfleoedd hawdd fel hyn i Seland Newydd i gael tiriogeth a falle pwyntia.
Ond i fynd nôl i’r gic ’na yn gynt gan Carter i’r cae agored. Oedd e’n neud siwr bod Cymru’n dodi’r bêl dros yr ystlys i gael ennill y llinell a be sy’n dod o fan’ny? Cic gosb. Mae Seland Newydd yn wastad yn meddwl ar eu traed a chael pethech bach syml fel yna.
Y Cryse Duon ar y blaen o saith pwynt i ddim. Cais Luke McAllister, trosiad Daniel Carter a Charter fan hyn â chyfle i ychwanegu triphwynt arall. Pymtheg metr mewn o’r ystlys bellaf. Ryw dri deg saith metr o’r pyst. Y droed chwith ’na yn fetronomig ac eto mae ’di llwyddo. Seland Newydd ar y blaen o ddeg pwynt i ddim.
CD 1: TRAC 21
Plant sy’n cael eu dysgu yn y cartre yw’r pwnc heno. Fe fyddwn ni’n datgelu ymchwil newydd sy’n dangos bod fwyfwy o rieni yn penderfynu dysgu’u plant yn y cartre’. Ond, yn ôl Undebau Athrawon, yr ysgol yw’r lle gorau i ddysgu plant:
O fewn y system addysg, mae ’na fodd monitro safon addysg mae plant yn gael o fewn yr ysgolion ond pwy sy’n mynd i fonitro safon yr addysg maen nhw’n cael gartre?
Fe fyddwn ni’n ymweld â chartre yn Sir Gâr, lle mae pedwar o blant yn cael eu dysgu gan eu mam. Dyma’r dewis gore iddyn nhw, yn ôl y teulu.
Fe benderfynes i falle mai dyma y ffordd mlaen i ni. Fydde fe’n ffordd fydde’n siwto ni fel teulu. Rhoi popeth ar y dafol, dw i’n credu mai manteision sydd fwy nag anfanteision yn beth y’n ni’n neud.
Criw o blant sy’n cael eu dysgu yn y cartre gan eu rhieni yn ymweld â’r Amgueddfa Wlân Genedlaethol yn Nhrefach, Felindre. Maen nhw yno fel rhan o ymgyrch ddarlunio y ‘Big Draw’. Swyddog Addysg yr amgueddfa yw Kate Evans.
Heddi ’da ni ’di bod efo gweithwyr sy’n dysgu plant o gartre – the home learners. Ni ’di bod yn darlunio fel Matisse yn ei henaint yn trio defnyddio papur, rhwygo papur a torri papur i ddadansoddi a dehongli y peirianne sy ’da ni yn yr amgueddfa.
Mae Lowri Butterworth yn 9 oed a’n dod o Beniel, ger Caerfyrddin. Mae hi yma gyda’i thri brawd. Fe ofynnais i iddi beth oedd hi ’di bod yn neud yn ystod y bore.
Llun o machine, ife, gyda lot o cogs a wheels ynddo fe a oedd e gyda tri chain.
Oedd e’n lliwgar?
Oedd.
Pa liwie oedd ynddo fe?
Glas a pinc a gwyn a brown.
Ti na’th e ar ben dy hunan?
Na.
Pwy oedd yn helpu ti de?
Eira, Rowine, Daniel,Tom, Huw.
So, o’dd sawl un ohonoch chi gyd yn ei neud e?
O’dd.
O’dd e’n hwyl gweitho fel’na?
O’dd.
Yn ôl Kate Evans o’r Amgueddfa mae gyda nhw berthynas dda gyda theuluoedd sy’n dysgu plant yn y cartre.
’Da ni ’di bod yn trio gweithio yn fwyfwy efo’r grŵp yma ac erbyn hyn ’da ni’n cynnig cyfres o sesiyne trwy’r flwyddyn.
Ydy chi’n gweld gwahanieth yn ymddygiad y plant o gwbwl, p’un ai ydy nhw’n cael eu dysgu o adre neu ydyn nhw mewn, wel, yn cael eu haddysg yn fwy ffurfiol falle, mewn ysgolion?
Na, i radde heleth mae’r hyder fan’na. Fel chi’n gweld, plant yw plant. Mae ... mae’r ystod oedran ’ma wedyn. Mae lot o deuluoedd ’da ni fan hyn, felly mae’r plant yn syth, unwaith maen nhw’n dod i’r amgueddfa, yn teimlo’n gartrefol fan hyn. ’Da ni yn cael perthynas eitha personol ’da’r plant sy’n dod fan hyn, bo ni’n nabod nhw a’u rhieni hefyd a ni’n nabod eu cefndir nhw. Mae’r plant fan hyn, maen nhw’n llawn hyder, maen nhw’n llawn hwyl a maen nhw’n gyfarwydd â delio efo oedolion hefyd a mae hwnna’n ddiddorol i’w weld.
Mae Siriol Butterworth wedi dod â’i phedwar plentyn i Drefach, Felindre ar gyfer
gweithgaredde’r bore.
Mae diwrnod fel heddi yn werthfawr iawn oherwydd pan y’ch chi’n gweithio ar ben y’ch hunan, wrth reswm, mae ’na rai manne gwan gyda chi yn y’ch gwybodaeth y’ch hunan a mae celf ddim yn un o mhyncia cryf, felly mae’r plant yn gallu dod – maen nhw’n gallu cymryd mantais o brofiad pobol erill ac o ... gallu rhywun fel Kate mewn celf ac falle cymryd rhan mewn digwyddiad sydd yn ddigwyddiad cenedlaethol. Falle ’sa chi gartre ar ben y’ch hunan fydde chi ddim yn rhan ohono fe.
Yn ôl Kate Evans, mae nifer y rhieni sy’n dewis dysgu‘u plant yn cynyddu. Mae hi’n teimlo ei bod
hi’n haws iddyn nhw wneud hynny y dyddia hyn.
Yn y gorffennol ’da ni wedi cydlunio’r holl brosiecte efo dysgwyr o gartre trwy Gaerdydd a erbyn hyn mae ’da ni beutu 175 o deuluoedd sy’n cynrychioli ryw 500 o bobol yn gyfan gwbwl gan gynnwys y plant wrth gwrs, ar ein llyfre ni, ar ein rhestr mailo ni.
|