CD2: TRAC 16
a) Doedd ganddyn nhw ddim digon o le i gartrefu’r holl blant. Mae’r teulu wedi ymgartrefu’n dda yn
Ffrainc.
Wyt ti wedi golchi dy wallt? Rhaid iti ymolchi cyn mynd i’r ysgol.
Mae hi yn y gegin yn paratoi cinio. Rhaid i mi ymbaratoi cyn traddodi’r ddarlith.
Doedd yr athro ddim yn gallu tawelu’r dosbarth. Er gwaethaf yr holl gyffro, ymdawelodd pan welodd
ei fam.
Dangosa dy basport imi. Roedd e’n ymddangos yn nerfus iawn.
b) Torrodd y bachgen ei law.
Pam mae’r neuadd mor llawn?
Ble mae’r rhaw fach?
Collodd y milwr un goes ac un llaw yn y Rhyfel Fawr.
Mae’r afon yn rhy lydan i’w chroesi.
Dyma’r tro cyntaf imi fod ar y llong hon.
Daliodd e lygoden fawr ond dihangodd y llygodenfach.
c) Roedd y Beatles yn grŵp poblogaidd iawn.
Mae Cristnogion yn dweud bod rhaid inni faddau ein gelynion.
Dywedodd y beirniad fod safon y gystadleuaeth yn isel.
Gair arall am ‘cas’ yw ‘blin’ yng ngogledd Cymru.
Mae’r iaith yn rhan bwysig o etifeddiaeth Cymru.
Dringodd y tri i gopa’r mynydd.
Rydyn ni’n chwilio am enw i’r tŷ. Oes gennych chi awgrymiadau?
Methodd y busnes am nad oedden nhw’n marchnata eu nwyddau yn effeithiol iawn.
CD2: TRAC 17
a) Mae nifer fawr o gynghorau sir yng Nghymru. Cafodd y bachgen lawer o gynghorion gan ei rieni
wrth fynd oddi cartref.
Roedd llawer o lifogydd yn yr afonydd yn y gogledd. Mae eisiau hogi’r llifiau cyn llifio coed.
Mae rhai o lwythau Brasil mewn perygl o ddiflannu. Mae llwythi o dywod yn dod i’r safle adeiladu
bob dydd.
Doedd e ddim yn nabod llawer o bersonau yn yrardal. Mae’r Eglwys yng Nghymru yn brin o
bersoniaid.
Wyt ti wedi colli pwysau? Rwyt ti’n edrych yn deneuach. Dw i’n prynu pwysi o datws ar y tro.
Ar brydiau mae hi’n blino. Cawson ni brydau bwyd ardderchog yn Ffrainc.
Torrodd ei asennau wrth chwarae rygbi. Gwelais yr asennod yn cario plant ar y traeth.
b) Cafodd Tom ei fagu yn Ffrainc. Mae’r fam yn magu’r baban mewn siôl.
Dechreuodd e fagu pwysau.
Roedd y mieri’n bigog a chafodd e loes wrth gasglu mwyar. Gofala sut rwyt ti’n siarad am ei
bod hi’n bigog iawn.
Roedd hi’n byw yn Swydd Buckingham unwaith. Cafodd y bachgen swydd mewn ffatri.
Defnyddiodd lif i dorri’r goeden. Welais i erioed gymaint o lif yn yr afon.
Paid â bwrw dy frawd bach! Byddaf yn mynd, a bwrw ei bod hi’n sych. Mae e’n bwrw’r Sul yng
Nghaerdydd. Roedd hi wedi bod yn bwrw ac roedd y pafin yn wlyb.
c) Dyma’r sillafiad cywir: penderfynu; ystyrir; derbynneb; ffynonellau;annibynwyr; annheg
TRAWSGRIFIADAU
Nod y trawsgrifiadau hyn yw adlewyrchu’n gywir yr hyn a glywir ar y crynoddisgiau. Nid yw siaradwyr y Gymraeg, yn fwy na siaradwyr unrhyw iaith arall, yn llefaru’n ramadegol gywir bob amser ac oherwydd hynny ceir enghreifftiau o iaith wallus. Gall y rhain fod yn adnodd gwerthfawr i’r tiwtor ac yn brawf i’r dysgwr nad yw gwneud camgymeriadau yn rhwystr bob amser i gyfathrebu effeithiol. Ar dro, gellir tynnu sylw at wall a manteisio arno i danlinellu ambell bwynt. Greddf y tiwtor a’i adnabyddiaeth o’i ddosbarth fydd yn penderfynu pryd y dylid gwneud hyn ai peidio.
CD 1 TRAC 1
…. Yn Aberystwyth o’ch chi wrth gwrs pan .. beth, rhwng pump a dwy ar bymtheg?
Ysgol Gymraeg Aberystwyth,a dw i ’di deud a dw i yn ei feddwl o, alla i’m meddwl am unlle gwell yn y 50au i fagu plentyn nag Aberystwyth, ac Ysgol Gymraeg Aberystwyth, a chael athrawon fel Hywel D.Roberts a Mary Vaughan Jones. Darllen straeon, ryw chwech, saith oed a dw i’n ... alla i gau’n llygad a gweld Mary Vaughan Jones o mlaen i yn darllen, adrodd storïau Mabinogion a Chwedlau Esop. O, oedd hi’n dalent. O’dd hi â dawn anhygoel, deud stori yn ogystal â sgwennu stori ... Ia,Ysgol Gymraeg Aberystwyth a wedyn Ysgol Ardwyn, ond wnes i ddim mwynhau Ysgol Ramadeg Ardwyn.
Naddo fe?
Na, O na.
Ond mae’n cael enw – ysgol dda.
O, oedd hi’n ysgol arbennig o dda ond do’n i’m yn ddisgybl, unwaith eto, arbennig o dda, yn anffodus. Na, o’n i’n chael hi’n anodd iawn yna. Wnes i basio’r Eleven Plus drwy ryw ryfedd wyrth ond o’n i, dw i’m yn gwbod, o’n i ofn yr athrawon ac oedd gen i’m diddordeb. Falle dyliwn i fod ‘di mynd i’r Ysgol Uwchradd, i Ysgol Dinas, er dw i yn erbyn ....hynna. Wna i byth anghofio’r dwrnod githo ni’r canlyniade Eleven Plus a roedd – Hywel Jones oedd y Prifathro dw i’n meddwl. Oeddan ni gyd yna, y rhai oedd wedi cymeryd yr Eleven Plus. Oedd o’n darllan y canlyniada fel ’sa ti’n darllen canlyniada pêl-droed, ti’n gwbod, achos Dinas oedd yr ysgol eilradd, os leci di, ac Ardwyn oedd yr Ysgol Ramadeg, a wna i ddim enwi’n iawn ond oedd o’n mynd “Wel, Richard Williams – Ardwyn, Siân Rees – Dinas, Peter Hughes – Dinas, Arfon Haines Davies - Ardwyn. Oh! Some mistake surely”.
Oedda chi’m yn cael y’ch bwlian na dim byd fel’na yn yr ysgol?
Na, dim o gwbwl. Na, na, na. O’n i fel dw i’n dweud, o’n i ... oedd gen i ofn yr athrawon hefyd. Roedd disgyblaeth lem yna. Ella bod hynna’n beth da ond pan symudon ni wedyn o Aberystwyth i Dreffynnon, mi es i Ysgol Glan Clwyd am flwyddyn, yn y Rhyl pryd hynny, ac un o’r blynyddoedd hapusaf fy mywyd i. O’n i wrth fy modd yna.
Felly, beth oedd y gwahaniaeth?
Wel, dw i’n cofio – ella dylwn i ddim dweud hyn. Dw i’n cofio y prifathro oedd Desmond Healey a dw i’n cofio’n iawn, ar ôl bod yna ryw bythefnos, na’th o ofyn sut o’n i’n setlo mewn a dw i’n cofio .... O, dw i ’di bod yn stiwpid! “Sut ’da chi’n setlo mewn Arfon?” A ddwedes i, “O, dw i wrth fy modd yma, fel ‘swn i ’di symud o Colditz i Butlins”. “O, reit, ’na ni. Ella bo chi angen dipyn o ddisgyblaeth.”
CD1 TRAC 2
Diolch yn fawr. Ar yr M4 mae’r tagfeydd ’na yn parhau i’r dwyrain ar ôl damwain rhwng Ffordd Fabian, Abertawe a Baglan, Port Talbot.Y ciw yn ôl at Llandarcy ac yn Merthyr Tudful mae’r A470 yn dal wedi’i chau yn gyfan gwbwl i’r de ar ôl damwain lori fan’no wrth Pentrebach yn gynharach. Traffig yn cael ei ailgyfeirio drwy Ferthyr, ac mae ’na oedi yn enwedig ar Ffordd Caerdydd wrth Droed y Rhiw, ac mae ’na gar wedi torri ar yr A470 i’r gogledd erbyn hyn wrth gylchfan Abercynon. Mae hi’n araf iawn i’r gogledd yn fan’na felly. Yng Nghaerfyrddin mae hi yn . . mae ’na oedi i’r dwyrain ar yr A40 o hyd wrth y gwaith - tarmacio ar y ffordd yn fan’no. Does ’na ddim trafferthion newydd ar yr A55 ond mae ’na oedi ar yr A550 i’r gorllewin yn Queensferry, ac mae’na ddamwain wedi cau Ffordd yr Wyddgrug yn fan’no, yn ymyl Cei Conna.
Mae’r trena a’r ferris i Iwerddon ar amser ond ym maes awyr Caerdydd bydd awyren hanner awr wedi naw o Sharm el-Sheikh yn glanio rwan am ugain munud wedi un ar ddeg. A’n rhif ni yma: 08703500600.
Share with your friends: |