GWRANDO A DEALL
i) Beth oedd yn rhoi’r pleser mwyaf i John Roberts Williams wrth weithio ar Y Cymro?
ii) Yn ôl y siaradwr, pwy sydd ar fai pan fydd papur yn methu?
iii) Pa fath o bobl roedd yn falch eu bod yn darllen Y Cymro?
iv) Faint oedd cylchrediad y papur pan ddechreuodd e ar ei waith?
v) Pam mae’n anodd gwerthu papur cenedlaethol?
vi) Pam mae pobl yn hoffi darllen papurau bro?
vii) Pa ffactor oedd yn allweddol yn llwyddiant Y Cymro?
viii) Ydy papurau bro yn fygythiad i bapur cenedlaethol ym marn y siaradwr?
ix) Ble roedd Y Cymro’n gwerthu orau?
x) Pa ardaloedd oedd yn anodd? Pam?
IAITH
a) Diffiniwch yn Gymraeg:
cylchrediad bygythiad di-ben-draw golygydd angerddol argraffiad.
b) Pa air nad yw’n perthyn yn ramadegol neu o ran ystyr i bob un o’r setiau hyn? Pam?
i) adlewyrchiad; methiant; cyfeirio; bygythiad
ii) cyfnod; adeg; oes; traddodiad
iii) cyfeiriadau; angerddol; cyson; di-ben-draw
iv) haneru; golygu; dyblu; treblu.
c) Mae John Roberts Wiliams yn sôn am ‘sbelio’ neu sillafu.
Dyma’r wyddor Gymraeg:
A B C Ch D Dd E F Ff G Ng H I L Ll M N O P Ph R Rh S T Th U W Y
Nawr rhestrwch y geiriau hyn yn nhrefn yr wyddor:
trosglwyddo; canu; lafant; golygu; rhad; angerddol; traddodiad; adlewyrchiad;
cenedlaethol; ras; ager; chwarae; thus; Llanelli.
TAFODIAITH
O ran geirfa a phatrwm, does dim llawer o ôl tafodiaith ar iaith John Roberts Williams na’r cyfwelydd yn y darn hwn, ond beth yw’r nodweddion sy’n bradychu eu cefndir?
TRAFOD
Trafodwch un o’r pynciau hyn mewn grwpiau:
i) Faint o werth sydd i bapurau bro?
ii) Sut byddech chi’n newid eich papur bro?
iii) Oes angen papur dyddiol Cymraeg? Pam?
iv) Beth yw hanfod newyddiadurwr da?
v) Ydych chi’n darllen papur newydd? Os nad ydych, sut rydych chi’n derbyn
newyddion y dydd?
YMADRODDION
di-ben-draw; di-droi-nôl; di-dderbyn-wyneb
YSGRIFENNU
Fy hoff adran o’r papur newydd.
Ysgrifennwch erthygl fer i’ch papur bro.
CD2: TRAC 15
[Y cyflwynydd radio, Jonsi, yn sgwrsio â Miriam James, Llangeler, am ei gwaith mewn siop lyfrau ac oriel gelf]
GEIRFA
gwledig cymreigaidd cymharu â ffin ehangu
oriel luniau arlunio amaethyddol cymeriadau perchen
yn bennaf ers talwm addas uniongyrchol anhygoel dramor gwreiddiol
GWRANDO A DEALL
i) Ble yn union mae Llangeler?
ii) Pa fath o ardal yw hi?
iii) Pa rannau o Gymru sy’n gymreigaidd yn ôl Jonsi?
iv) Sut mae dwyrain Cymru’n wahanol?
v) Ble mae Miriam James yn gweithio?
vi) Beth yn arbennig sydd wedi digwydd i’r siop yn ystod y flwyddyn?
vii) Pa arlunydd sy’n arddangos ei waith yno?
viii) Beth yw ei hoff destunau?
ix) Gwaith sawl artist sydd yn yr oriel?
x) Beth oedd problem yr arlunydd oedd yn ffrind i Jonsi?
xi) Ble yn union mae’r siop?
xii) Ydy Miriam James yn arlunydd?
xiii) Beth mae Jonsi’n hoffi ei wneud dramor?
xiv) Faint mae e’n ei wybod am arlunio?
IAITH
a) Un o nodweddion iaith Jonsi yw ei fod ynhoffi defnyddio tagiau ar ddiwedd brawddeg.
Dyma rai:
yn dydy; nag ’dan; ynte fa; yn does; yn dydyn.
Gwrandewch ar y recordiad yn ofalusgan nodi pob tag a glywch. Wedyn, ychwanegwch
y tagiau cywir i’r canlynol:
i) Fyddai e byth yn twyllo,……………………………………..?
ii) Yng Nghaerdydd roedd e’n gweithio,……………………...?
iii) Does dim arian ’da nhw, ……………………………………?
iv) Fe brynodd e’r ceffyl, ………………………………….……?
v) Ddylai e ddim siarad fel ’na, ……………………………….?
vi) Dw i’n iawn, ………………………………….………………?
vii) Dwyt ti ddim yn credu hynny, ……….…..……...…….……?
viii) Mi ddaw o rwan, ..……….……..………….………….……..?
b) Edrychwch ar y gwahanol ddefnydd a wneir o’r canlynol a phenderfynwch ydy’r
brawddegau’n gywir:
Cymraeg; Cymreig; cymreigaidd; Cymru; Cymry
i) Mae e’n siarad Cymraeg da.
ii) Roedd hi’n arfer gweithio yn y Swyddfa Gymraeg.
iii) Bwrdd Croeso Cymry.
iv) Roedd ganddi acen gymreigaidd.
v) Mae nifer o ddawnsiau gwerin Cymreig.
vi) Roedd ganddi delyn deires Cymru.
c) Pa ansoddeiriau yn disgrifio nodweddion ardal ydych chi’n gallu eu ffurfio o’r enwau hyn?
amaethyddiaeth
diwydiant
gwlad
mynydd
bryn
TAFODIAITH
Nodwch yr elfennau hynny yn iaith Jonsi a Miriam James sy’n eu lleoli. Sut mae iaith y ddau yn ymdebygu neu yn wahanol i’r iaith a glywch chi o’ch cwmpas?
TRAFOD
Cyfwelwch â pherson am ei waith a sôn am hynny wrth y dosbarth.
Oes gennych hoff arlunydd neu hoff ddarlun? Trafodwch.
Trafodwch bethau o blaid ac yn erbyn gweithio mewn siop.
YMADRODDION
ers talwm; ers llawer dydd; gynt; yr hen ddyddiau; amser maith yn ôl
YSGRIFENNU
Y lluniau / darluniau ar y wal yn fy nghartref.
Prynu darluniau.
Hapus neu anhapus yn eich gwaith? Pam?
CD2: TRAC 16 BETH SYDD MEWN ENW?
[Llinos Angharad o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn sôn am enwi’r caffi newydd ar gopa’r Wyddfa ychydig cyn cyhoeddi’r enw swyddogol]
GEIRFA
awdurdod Eryri swyddogol copa’r Wyddfa awgrymiadau
chwaneg cynigion cysylltu â safon amrywiaeth
trwsgl tafod-ym-moch hafan grug bachog
ynganu etifeddiaeth cawr ymgartrefu beddrod
blin gelynion ymwybyddiaeth agwedd goruwch-ystafell
poblogaidd marchnata
GWRANDO A DEALL
i) Beth sy’n mynd i gael ei benderfynu?
ii) Sawl awgrym sydd wedi cyrraedd hyd yn hyn?
iii) Faint fydd cost yr adeilad?
iv) Pa fath o enwau sydd wedi cael eu hawgrymu hyd yma?
v) Nodwch dri enw a awgrymwyd.
vi) Pa fath o enw maen nhw’n chwilio amdano?
vii) Pa ddau gymeriad chwedlonol a hanesyddol a enwyd?
viii) Pa fath o berson oedd Rhita Gawr?
ix) Beth yw anfantais enw fel Carnedd Eryri yn ôl y cyfwelydd?
x) Pwy fydd yn penderfynu ar yr enw?
xi) Pa enw o’r Beibl a awgrymwyd?
xii) Am beth mae’n rhaid ei gofio wrth ddewis enw, yn ôl un o’r siaradwyr?
Share with your friends: |