YMADRODDION
bwrw golwg ar; trwy gyfrwng; y fath dlodi; i ryw raddau; fan hyn.
YSGRIFENNU
Ysgifennwch
a) lythyr at rywun yn Mbale yn disgrifio eich ardal chi.
b) gylchlythyr yn gofyn am gyfraniad i elusen sy’n helpu pobl dlawd yn Affrica.
CD1: TRAC 16
TRAFOD Y NEWID YN YR HINSAWDD
[Tri o bobl yn trafod beth sydd gan y papurau i’w ddweud am y newid yn yr hinsawdd]
GEIRFA
cyn-aelod papurau trymion anwybyddu effaith tŷ gwydr
cyfieithwraig terfysgaeth cynhesrwydd ystadegau
adolygwraig duwies dilys newidiadau
colofnydd Y Cenhedloedd Unedig tymheredd hinsoddol
ŵyn hinsawdd tanbrisio daeargryn
thema effaith bywoliaeth gwleidyddol
proffwydo dwyn perswâd ar cydbwysedd
GWRANDO A DEALL
i) Yn ôl Simon Jenkins, beth yw’r pwnc pwysicaf yn y byd?
ii) Sut roedd y ferch yn yr Independent wedi ei gwisgo?
iii) Yn ôl y papur, beth sy’n mynd i ddigwydd yn 2030?
iv) Effaith beth mae pobl yn tueddu i’w danbrisio?
v) Pa ddigwyddiad anarferol sydd yn Swydd Warwick?
vi) Beth yw consensws barn gwyddonwyr am yr hinsawdd?
vii) Pam nad yw Rod Richards y barod i wrando ar economegwyr?
viii) Pa rybudd a gawn ynglŷn ag ailadrodd ystadegau anghywir?
IAITH
a) Pa barau sy’n perthyn?
proffwydo argyhoeddi
ystadegau gwres
dychryn gweld i’r dyfodol
dwyn perswâd ar braw
cynhesrwydd tywydd
sir ffigurau
hinsawdd swydd
b) Pa ddau air sydd wedi eu cyfuno i wneud y geiriau cyfansawdd hyn?
darlledwraig daeargryn
tanbrisio adolygwraig
cyfieithwraig
c) Mae gan rai enwau ffurf luosog afreolaidd. Beth yw lluosog y canlynol?
bisgïen; chwaer; brawd; gŵr; llaw; sipsi; rhiant; ci.
ch) Esboniwch y gwahaniaeth rhwng y parau hyn:
hinsawdd / tywydd; papurau trymion / papurau bro; terfysgaeth / rhyfel; anwybyddu / casáu; bywyd / bywoliaeth
TAFODIAITH
Faint o ôl tafodiaith sydd ar iaith lafar y tri siaradwr? Ddylid caniatáu defnyddio tafodiaith mewn rhaglenni o’r math hwn?
TRAFOD
i) Oes arwyddion yn eich ardal chi bod yr hinsawdd yn newid? Trafodwch.
ii) Yr hinsawdd yn newid? Beth ddylem ni ei wneud?
iii) Meddyliwch am ddadleuon o blaid ac yn erbyn melinau gwynt a’u trafod naill ai mewn parau neu grwpiau.
YSGRIFENNU
Byw heb gar.
Codi tai ar gyfer 2050.
Effaith tŷ gwydr. Myth ynteu realiti?
CD1: TRAC 17 DAL SADDAM HUSSEIN
[Ymateb pobl i’r newyddion bod Saddam Hussein wedi ei ddal]
GEIRFA
cyhoeddiad gweinyddwr hyderus ffoi achos
cydweithio dathlu cwrdiaid erledigaeth cyfundrefn
penbleth cynghreiriaid diffuant anos gorfoledd
arbenigedd barnwyr amgylchiadau cefnogaeth safon
cyfiawnder rhyngwladol anhysbys honedig milwrol
uniongyrchol offer cyfathrebu cyntefig cyfrinachau
trawiadol crwydryn ysgogi chwyrn cyrch
tyddyn cell cuddio croesholi delweddau
annhebygol darostyngedig
GWRANDO A DEALL
i) Pwy wnaeth y cyhoeddiad?
ii) Ble ffeindion nhw Saddam?
iii) I ba raddau roedd Saddam yn cydweithredu?
iv) Pwy oedd yn dathlu yng Nghaerdydd?
v) Sut roedd Saddam yn edrych?
vi) Beth oedd ofnau Robert Griffiths ’tasai achos yn cael ei gynnal?
vii) Beth oedd mudiad Amnest Cydwladol yn awyddus i’w sicrhau?
viii) Ble roedd Saddam Hussein yn cael ei ddal?
ix) Faint o offer cyfathrebu oedd ganddo yn y ffermdy?
x) Beth roedd e’n gallu ei weld o’r ffermdy?
IAITH
a) Llenwch y bylchau:
Enw Berfenw
crwydryn crwydo
gweinyddwr …………
………… cyhoeddi
barnwr …………
………… dathlu
cefnogaeth …………
………… arbenigo
erledigaeth …………
b) P’un o’r ffurfiau hyn sy’n gywir?
cynghreiriaid cyngreiriaid
sonir sonnir
amgaeëdig amgauëdig
ar wahan ar wahân
annhebygol anhebygol
ysgrifenaf ysgrifennaf
Yn y golofn ar y chwith mae 10 gair glywsoch chi yn y darn. Pa air ar y dde sydd agosaf ei ystyr i bob un ohonynt?
sicr ymosodiad
ffoi cyfarpar
croesholi siŵr
diffuant cyfyng-gyngor
anhysbys annog
offer dianc
cyntefig didwyll
ysgogi cwestiynu
cyrch hen
penbleth anadnabyddus
TRAFOD
i) Ddylai Saddam Hussein fod wedi cael ei ddienyddio?
ii) “Bydd dienyddio Saddam ond ei wneud yn ferthyr”. Trafodwch.
iii) Ydy hi’n iawn i wlad gael gwared ar unben mewn gwlad annibynnol arall?
iv) Ddylai Prydain fod wedi cefnogi polisi tramor America yn Irac?
YMADRODDION
nid nepell o; cyfraith a threfn; ar frig yr agenda; achub ar y cyfle
YSGRIFENNU
Portread o unben – Stalin, Hitler, Cadeirydd Mao, Castro, Saddam Hussein.
O dan ba amgylchiadau mae modd cyfiawnhau mynd i ryfel?
CD1: TRAC 18 BARDD YN TRAFOD EI BYWYD
[Y bardd, Mari George, yn trafod ei bywyd a’i hysgrifennu]
GEIRFA
cyhoeddi troi â’i ben i lawr barddoni annog amgylchiadau
adlewyrchu meddwi anaeddfed addas safbwynt
dinesig agwedd dyfnder cyfleu magwraeth
GWRANDO A DEALL
i) Ers pryd mae Mari George yn barddoni?
ii) Pam roedd hi’n ystyried ei hun yn lwcus yn y brifysgol?
iii) Beth oedd wedi ei sbarduno i ddal ati i farddoni?
iv) Am beth mae pobl yn tueddu i ysgrifennu?
v) Sut mae hi’n teimlo nawr wrth ddarllen ei cherddi cynnar?
vi) Ble cafodd Mari George ei magu?
vii) Sut roedd hi’n wahanol i’r bobl o’i chwmpas?
viii) Beth sy’n “unigryw” yn ei gwaith?
ix) Ym mha fodd mae ei byd wedi newid yn sydyn?
Share with your friends: |