Nodyn i’r tiwtor 5 cd 1: cynnwys 9



Download 0.67 Mb.
Page14/36
Date31.07.2017
Size0.67 Mb.
#25383
1   ...   10   11   12   13   14   15   16   17   ...   36

TRAFOD


Trafodwch mewn grwpiau:
i) Ddylai’r Nadolig fod yn ŵyl hollol seciwlar bellach? [Un grŵp o blaid ac un yn erbyn].

ii) Pa luniau fyddech chi’n eu rhoi ar stampiau’r Nadolig?


YMADRODDION


ar gynnydd; yn y bôn; pob sut; nonsens noeth; ac yn y blaen; yn gawl potsh; bob yn ail.

YSGRIFENNU


Llythyr i Swyddfa’r Post yn cwyno am gynllun stampiau Nadolig.

Nadolig cofiadwy.

‘Mae’r Nadolig wedi colli ei ystyr’.



CD2: TRAC 3
COFIO TEULU SYLVIA PANKHURST


[Elinor Wyn Reynolds yn siarad am Sylvia Pankhurst, aelod o deulu enwog a frwydrodd dros wahanol hawliau dynol]

GEIRFA


sefydliad gweithredoedd torri’r gyfraith ymosod treisgar ymgyrch daliadau egwyddor annatod ymgyrchu

gwrthffasgaeth ympryd blaengar annibyniaeth caer

gwrth-hiliaeth


GWRANDO A DEALL



i) Pryd sefydlwyd ‘The Women’s Social & Political Union’?

ii) Beth oedd amcan y mudiad hwnnw?

iii) Pa fath o bethau anghyfreithlon roedd Sylvia wedi eu gwneud?

iv) Beth wnaeth hi tra oedd hi yn y carchar rhwng 1913-14?

v) Pa fath o deulu oedd teulu Sylvia Pankhurst?

vi) Pa fath o ferched oedd o ddiddordeb arbennig iddi?

vii) Pwy oedd y person enwog y bu’n dadlau ag ef?

viii) Pa bwnc oedd yn uno’r chwiorydd?

ix) Sawl papur newydd sefydlodd Sylvia?

x) Ble cafodd hi ei chladdu?





IAITH


a) Pa ferfenwau sy’n cael eu ffurfio o’r enwau hyn?

ymgyrch ymgyrchu

gweithred

sefydliad

ymosodiad

trais


ympryd


b) Cwblhewch y brawddegau gan ddefnyddio’r geiriau isod:
treisgar ymgyrchu ymprydio sefydliad egwyddor blaengar

Pan oedd y carcharor yn ……………… doedd e ond yn yfed dŵr.

Prif ……………… y gwleidydd oedd sicrhau chwarae teg i bawb.

Dywedwyd ei fod yn ddyn ……………, yn curo ei wraig a’i blant.

Bu llawer yn ………………. i sicrhau’r bleidlais i ferched.

Ar un adeg, roedd y capel yn ………………. pwysig ym mhob tref.

Roedd Sylvia’n berson……………….. mewn sawl maes.



c) P’un sy’n gywir? Pam?

y dair merch; y tair merch; y dair ferch


y ddwy ferch; y dwy merch; y ddwy ferch
y bedair chwaer; y bedwar chwaer; y pedair chwaer
y drydydd ferch; y drydedd merch; y drydedd ferch
y bedwaredd ferch; y pedwerydd merch; y bedwaredd merch
y dair; y tair
y ddwy; y dwy; y dau; y ddau

TAFODIAITH


Yn eich barn chi, faint o ôl tafodiaith sydd ar y sgwrs hon? Oes unrhyw awgrymiadau o ble mae’r siaradwraig yn dod?

TRAFOD


i) Rhaid i chi a’ch partner gymryd arnoch eich bod yn un o’r ymgyrchwyr canlynol. Dywedwch rhywbeth am eich achos a dros beth yn union rydych yn ymgyrchu. Sut rydych chi’n bwriadu gweithredu?

Aelod o Greenpeace; Aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg; Aelod o Amnest Cydwladol; Aelod o Tadau dros Gyfiawnder; ymgyrchydd gwrthniwcliar.

ii) Casglwch wybodaeth am un o’r ymgyrchwyr hyn i’w hadrodd o flaen eich grŵp:

Nelson Mandella; Martin Luther King; Y Fam Theresa; Emily Pankhurst; William Wilberforce; Bob Geldof.

iii) Ydy hi’n dderbyniol i dorri cyfraith gwlad i hybu achos? Trafodwch.

YSGRIFENNU


Taswn i’n gallu newid un peth yn y byd, baswn i’n…………….

Gwastraff amser yw ymgyrchu.

‘Ddylai’r Eglwys ddim ymyrryd mewn gwleidyddiaeth.’ Trafodwch.


CD2: TRAC 4
IOLO WILLIAMS YN SÔN AM ADAR


[Gerallt Pennant yn sgwrsio â’r naturiaethwr, Iolo Williams, am adar]

GEIRFA


Lefelau Gwent aber llifo

gwarchodfa perthi clwydo

socan eira (fieldfare) aeron toreth

drudwennod (starlings) clwydfan coch dan adain (redwing)

anhygoel

GWRANDO A DEALL
i) Ble mae Iolo wedi bod?

ii) Am faint o amser oedd e yno?

iii) Pryd agorwyd y warchodfa ar Lefelau Gwent?

iv) Beth oedd Iolo’n ei wneud yno?

v) Pa brawf oedd ganddo fod yr adar yno?

vi) Ar ba adeg o’r dydd oedd e’n ffilmio’r drudwennod?

vii) Tua faint o adar oedd yno?

viii) Ble roedd Bill Oddie wedi bod yn ffilmio?

ix) Sut mae e’n disgrifio siapiau’r cymylau o adar?

x) Ble arall yng Nghymru rydych chi’n gallu gweld drudwennod yn ymgasglu?



IAITH


a) Pa air o’r rhestr yma a ddefnyddir am gasgliad o’r canlynol?
haig; buches; gyr; haid; tyrfa; ciwed; praidd.

[Oes rhai o’r termau y gellir eu defnyddio am fwy nag un o’r rhain?]



…………………… o adar
…………………… o ddefaid.
…………………… o bysgod.
…………………… o ladron.
…………………… o wartheg / dda
…………………… o bobl.
…………………… o wenyn.

b) Mae’r diarhebion a ganlyn wedi eu cymysgu.

Cywirwch nhw.



Adar o’r un lliw / ni wna wanwyn
Gwyn y gwêl / y piga’r cyw
Un wennol / hed i’r un lle
Lle crafa’r iâr / y frân ei chyw

c) Weithiau mae Saesneg yn gallu dylanwadu ar gystrawen y Gymraeg. Ydy cyfeirio at afonydd fel ‘y Taf’ neu ‘yr Elai’ yn gywir? Os nad ydy, pam?

ch) Yn aml wrth siarad byddwn yn ychwanegu ymadroddion atodol. Roedd Iolo, er enghraifft,


yn defnyddio,‘siwr o fod’. Dyma ragor y dylech eu nodi:

chwarae teg; a dweud y gwir; at ei gilydd; ’sbosib (does bosib); heb os;


hyd y gwn i; yn ôl pob tebyg; gwaetha’r modd; wrth reswm.

Download 0.67 Mb.

Share with your friends:
1   ...   10   11   12   13   14   15   16   17   ...   36




The database is protected by copyright ©ininet.org 2024
send message

    Main page