Nodyn i’r tiwtor 5 cd 1: cynnwys 9



Download 0.67 Mb.
Page17/36
Date31.07.2017
Size0.67 Mb.
#25383
1   ...   13   14   15   16   17   18   19   20   ...   36

IAITH


a) Gwrandewch ar y sylwebaeth a cheisiwch ddyfalu beth yw’r termau Cymraeg a ddefnyddir am y canlynol:

a corner kick


penalty box
to counter-attack
a cross
a header
a throw-in
a forward

a run
a goal-kick


to be offside


b) Gwrandewch unwaith eto. Pa air/eiriau sy’n eisiau?

Mae e’n ………………… i frwydro. Y cyfnod pan oedd Cymru ar ei ………………… o dan Mark Hughes.

yn gwthio un neu ddau o chwaraewyr Cyprus ……………. y bêl.

yn caniatáu i fechgyn Cymru ddod nôl yn un …………. ar draws y …………..

roedd e’n gyd-chwara…………………. yng nghanol y cae.

ond ei …………….. cyntaf ychydig bach yn rhy galed.

Mae’r ………………. ar ei thraed.

c) P’un o’r ddau ddewis sy’n gywir?



oddiar oddi ar


oddieithr oddi eithr
oddi wrth oddiwrth
oddiam oddi am

TAFODIAITH


Nodwch y prif anawsterau a gewch wrth geisio dilyn sylwebaeth ar gêm.


TRAFOD


i) Ddylai merched gael chwarae pêl-droed? Trafodwch.

ii) Mae peldroedwyr yn ennill gormod o arian. Un rhan o’r dosbarth i lunio dadleuon o blaid a’r llall yn erbyn.

iii) Ar y cyd, lluniwch restr o dermau pêl-droed.

YMADRODD


Sylwch ar y defnydd o ‘yn weddol saff o’ yn yr ystyr o ‘yn weddol sicr o’ e.e. Maen nhw’n weddol saff o ennill.

YSGRIFENNU


Portread o unrhyw beldroediwr.

Taswn i’n briod â pheldroediwr…

Peldroediwr yn y newyddion.



CD2: TRAC10
DAFYDD IWAN YN SÔN AM DDECHRAU EI YRFA


[Dafydd Iwan yn sôn am ddechrau canu a’r dylanwadau a fu arno]

Cyn gwrando ar y recordiad, casglwch ffeithiau am Dafydd Iwan a’u rhannu â gweddill y dosbarth.


GEIRFA


diwylliedig pumdegau ymysgwyd amrwd digyfeiliant gwirioni swyddogion gwersyllwyr deiseb

GWRANDO A DEALL
i) Faint oedd oed Dafydd Iwan yn symud i Lanuwchllyn?

ii) Pa raglen deledu oedd yn hybu canu poblogaidd yn y pumdegau?

iii) Beth oedd barn Dafydd am y rhaglen?

iv) Pryd roedd y plant yn gwrando ar Radio Luxemburg?

v) Pwy oedd yr aelod cyntaf o’r teulu i brynu gitâr?

vi) Beth oedd y ddau beth y gallai Dafydd eu gwneud?

vii) Ble aeth e ati i ddysgu’r gitâr?

viii) Beth sy’n rhyfedd am y tro cyntaf iddo ganu?

ix) Beth oedd y plant yn gwrthod ei wneud yng Nglan-llyn?

x) Beth oedd pwrpas y ddeiseb?


IAITH


a) Cwblhewch y brawddegau hyn ar ôl gwrando ar y recordiad:

Roedd Brynaman a Llanuwchllyn yn bentrefi ……………………………………………


Dechreuodd Dafydd ymddiddori mewn rhaglenni canu pop yn y ……………………..
Am nad oedd e’n gallu canu offeryn, roedd rhaid iddo ganu’n ……………………......
Cafodd e ………………………………………………………………………….. ar ganu.
Aeth swyddogion yng Nglan-llyn i banics ..………………………….……………………
Cyflwynodd y gwersyllwyr .….… i’r BBC yn gofyn am gael gweld Dafydd ar y teledu.

b) Defnyddiwch eiriadur i ddod o hyd i genedl yr enwau hyn. Oes yma batrwm?

tysteb, swyddfa, heddwch, brwdfrydedd, gwybodaeth, tywyllwch, archeb, porfa, tangnefedd, gwytnwch, barddoniaeth, hysbyseb, noddfa, amynedd, amheuaeth

c) Pa esboniad ar y dde sy’n gweddu i’r idiomau ar y chwith?


ar ddamwain ar y cyfan
ar bigau’r drain mentro heb sicrwydd
â’i wynt yn ei ddwrn yn bryderus ac anghysurus
bod â dwylo blewog heb yngan gair
ar gyfeiliorn heb symud
at ei gilydd un sy’n hoffi arwain
prynu cath mewn cud ar frys mawr
heb na bw na be ar grwydr
yn ei unfan bod yn lleidr
ceffyl blaen ar siawns

TAFODIAITH


Er bod Dafydd Iwan yn defnyddio rhai ffurfiau gogleddol fel ‘deud’, ‘gwirioni’ ac ‘yntê’ mae’r

terfyniad lluosog ‘-au’ > ‘e’ yn groes i’r hyn a ddisgwylid. Oes gennych awgrymiadau pam mae hyn yn digwydd?

TRAFOD


i) Oes unrhyw werth parhaol i ganu

poblogaidd? Trafodwch.

ii) Canu pop – o les neu yn gwneud drwg?

iii) Rhywbeth i’r ifainc yn unig yw canu pop?



YMADRODDION


cael blas ar; cael hwyl ar; rhywun neu’i gilydd

YSGRIFENNU


Canu pop – sŵn heb ddawn?
Cantorion pop yn ymgyrchu.
Cerddoriaeth bop v. cerddoriaeth glasurol.



CD2: TRAC 11
DYFAN ROBERTS YN DARLLEN STORI ARSWYD


[Yn y darn hwn mae’r actor, Dyfan Roberts, yn darllen rhan o stori gyffrous]

GEIRFA


milwr diflannu llefai bwtri cilagored lled y pen dychymyg gordd dudew ceryddu curo erfyn ar dwrn fferu anadlu chwys gruddiau gwalch

GWRANDO A DEALL
i) At ba rif cyfrifodd y milwr?

ii) I ble rhedodd e?

iii) Oedd ffenest y bwtri ar gau?

iv) Sut teimlai e wrth fynd drwy’r ffenest?

v) Faint o olau oedd yn y tŷ?

vi) Pwy oedd yn siarad â’i chwaer oddi allan?

vii) Beth oedd ei chwaer am ei wneud?

viii) Ble aeth e ar flaenau’i draed?

ix) Pa sŵn glywodd e yn stafell wely ei dad?

x) Beth agorodd e yn y stafell?

xi) Pa ateb gafodd e pan ofynnodd e,“Pwy sy’ ’na?”?

xii) Beth deimlodd e’n sydyn?


IAITH


a) Pa ymadroddion a ddefnyddiwyd yn y stori i gyfleu y canlynol?
yn llydan agored
calon yn curo’n drwm
roedd yn hawdd iddo
diflannwch, ferch
safodd lle roedd e
cerdded heb sŵn

rhewodd ei waed


y cythraul!

b) Pa arddodiaid sy’n dilyn y berfenwau / berfau hyn yn y stori?
diolch aeth erfyn dal
gwrando gafael cau

c) Pa eiriau sydd ag ystyr tebyg?

fferu dwrdio
bwtri dihiryn
dudew curo

ceryddu bwlyn

bwrw rhewi

gruddiau pantri

cilagored tywyll

gordd bochau

dwrn hanner agored

gwalch morthwyl pren




Download 0.67 Mb.

Share with your friends:
1   ...   13   14   15   16   17   18   19   20   ...   36




The database is protected by copyright ©ininet.org 2024
send message

    Main page