TAFODIAITH
Mae Dyfan Roberts yn darllen stori ysgrifenedig. Pa wahaniaethau ydych chi’n eu gweld rhwng iaith y stori ac iaith lafar bob dydd? Gwnewch restr o’r prif bwyntiau.
TRAFOD
i) Stori arswyd yw hon. Pa elfennau yn y sgrifennu a’r adrodd sy’n peri ei bod yn gyffrous? Trafodwch.
ii) Adroddwch stori am rywbeth cyffrous rydych chi wedi ei glywed neu sydd wedi digwydd i chi’n bersonol.
iii) Mae darllen ar goedd yn sgil anodd. Dewiswch ddarn o stori / nofel i’w ddarllen yn uchel.
YMADRODDION
diolch i’r drefn!
diolch byth!
diolch i’r nefoedd!
diolch i Dduw!
diolch i’r mawredd!
YSGRIFENNU
Ysgrif am unrhyw ddigwyddiad arswydus / cyffrous.
Stori yn gorffen: “a fferodd fy ngwaed”.
CD2: TRAC 12
GUTO ROBERTS YN SÔN AM GYMERIAD GWREIDDIOL
[Guto Roberts yn sôn am Rol, Croesor Bach, un o gymeriadau gwreiddiol pentref Croesor]
GEIRFA
arbenigrwydd hyderu ias cwta ddeufis dyhead disymwth mudo eirin tagu cyforiog llwm moel surni moethusrwydd coinio cymariaethau gwaith sets dihafal annioddefol clecian glaw taranau nobl
GWRANDO A DEALL
i) Pa mor adnabyddus oedd Rol?
ii) Ers pryd mae e wedi marw?
iii) Sawl brawd oedd ganddo?
iv) Sut roedd e’n dymuno marw?
v) Ble bu Guto Roberts yn sgwrsio ag ef?
vi) I ble symudodd e o Groesor?
vii) Beth roedd e’n ei fwyta “yn hogyn 10 oed”?
viii) I ba fath o deulu y perthynai?
ix) Ble bu’n gweithio ar un adeg?
x) Pam roedd ei het wellt wedi mynd “fel clustia’ sbaniel”?
IAITH
a) Lluniwch frawddegau yn cynnwys yr ymadroddion canlynol a ddefnyddiwyd yn y sgwrs:
rhyfeddol o; aml i dro; ers tro byd; am fy nhraed; clamp o.
b) Pa eiriau eraill a ddefnyddiwyd yn y sgwrs i gyfleu:
gobeithio; sydyn; symud; ers amser; tlawd; chwerwder; anghymarol; het fawr.
c) Rhestrwch y geiriau hyn o dan y penawdau DYMUNOL ac ANNYMUNOL:
ffraeth; twp; cwynfanllyd; caredig; swrth; byrbwyll; galluog; cymwynasgar; cybyddlyd;
hynaws; siriol; ffiaidd.
TAFODIAITH
Brodor o Eifionydd yng Ngwynedd oedd Guto Roberts. Gwrandewch ar ei sgwrs eto a nodwch beth sy’n digwydd i’r terfyniad lluosog –au yn y geiriau: ’sgidiau; awgrymiadau; cymariaethau; taranau a clustiau.
TRAFOD
i) Llunio sgwrs fer am unrhyw ‘gymeriad’ rydych yn ei nabod.
ii) Ysgrifennwch enwau cymeriadau adnabyddus hanesyddol neu gyfoes ar gardiau a glynwch nhw ar gefnau eich cyd-aelodau yn y dosbarth â selotape. Tasg pob un fydd ceisio darganfod pwy ydyw trwy gerdded o gwmpas a holi’r lleill.
YMADRODDION
ar un adeg; am gyfnod; ymhen tipyn; ar ôl ysbaid; ar fyr o dro; ychydig yn ôl.
YSGRIFENNU
Portread o gymeriad.
Llunio rhestr o gwestiynau ar gyfer holi cymeriad lleol.
CD2: TRAC 13
ATGOFION DR DEREC LLWYD MORGAN AM GEFN-BRYN-BRAIN
[Rhan o sgwrs gan yr Athro Derec Llwyd Morgan am ei ardal enedigol]
GEIRFA
comin perfeddwlad Y Diwygiad Methodistaidd glo carreg
glofaol achos Annibynnol arwrol engylu
dileu cyfamser purion clwyfo ychymyg
GWRANDO A DEALL
i) Ble codwyd pentref Cefn?
ii) Pryd cafodd y pentref ei godi?
iii) O ble daeth pobl i fyw yno?
iv) Ble roedden nhw’n gweithio?
v) Beth oedd y gwahaniaeth rhwng Cefn a Chwmllynfell?
vi) Pa mor bell aeth Evan Williams i bregethu?
vii) Ydy’r siaradwr yn byw yn yr ardal nawr?
viii) Beth sy’n digwydd i bob pentref yn ôl y siaradwr?
ix) Beth ydych chi’n meddwl oedd penderfyniad swyddogion y Swyddfa
Gymreig?
x) Pa mor hapus ydy Derec Llwyd Morgan â’r penderfyniad?
IAITH
a) Gwir neu anwir?
Hen bentref yw Cefn-bryn-brain.
Doedd dim diwydiant yn yr ardal.
Mae’n sefyll yn ymyl Cwmllynfell.
Roedd achos Methodistaidd yng Nghwmllynfell yn amser Cromwell.
Dydy’r siaradwr ddim yn byw yno nawr.
Penderfynodd y Swyddfa Gymreig adleoli’r pentref.
Mae’r siaradwr wrth ei fodd â’r penderfyniad.
b) Esboniwch y gwahaniaeth rhwng y parau hyn:
diwydiant diwylliant
comin cae
efengylu darlithio
diwygiad chwyldro
c) Ar y cyd, cynlluniwch sgwrs fer am ardal y dosbarth gan gynnwys yr ymadroddion hyn:
ers llawer dydd; roedd mynd ar; dan ei sang; Sul, gŵyl a gwaith; nerth bôn braich;
wedi mynd â’i ben iddo; ar drai; cael dau ben llinyn ynghyd; daw tro ar fyd; ar ben eu digon.
TRAFOD
i) ‘Mae arddull y siaradwr yn ffurfiol iawn’. Casglwch dystiolaeth i gadarnhau neu wrthbrofi’r gosodiad hwn.
ii) Soniwch am newid yn eich ardal nad ydych yn hapus ag ef.
iii) Disgrifiwch ardal rydych yn hoff ohoni.
YMADRODDION
hyn a hyn; hwn a hwn; hon a hon
YSGRIFENNU
Ymadael â’ch ardal enedigol.
Newidiadau yr hoffwn i eu gweld yn fy ardal.
Mynd yn ôl i’r hen ardal heddiw.
CD2: TRAC 14
GOLYGU’R ‘CYMRO’ – ATGOFION JOHN ROBERTS WILLIAMS
[Y newyddiadurwr, John Roberts Williams, yn sôn am ei gyfnod yn olygydd ar Y Cymro]
GEIRFA
cyfnod boddhad cylchrediad angerddol adlewyrchiad methiant dyblu treblu cyfeirio trosglwyddo cenedlaethol cyfeiriadau golygu agos atoch argraffiadau bygythiad traddodiad cyson di-ben-draw
Share with your friends: |