Nodyn i’r tiwtor 5 cd 1: cynnwys 9



Download 0.67 Mb.
Page13/36
Date31.07.2017
Size0.67 Mb.
#25383
1   ...   9   10   11   12   13   14   15   16   ...   36

GEIRFA


clasur adfer digidol croesawu fersiwn difyr hudolus addasu rhyddhau cyfarwydd â corwynt achlysur llunio annatod effeithio ar gollwng tŵr cymylau anhygoel peiriannau

GWRANDO A DEALL
i) Pa mor aml mae’r ffilm wedi bod ar y teledu?

ii) Sut mae’r fersiwn yma’n wahanol?

iii) Sawl fersiwn o’r ‘Wizard of Oz’ sy wedi ymddangos dros y blynyddoedd?

iv) Sut maen nhw wedi gwella ansawdd y ffilm?

v) Beth sy’n bwysig iawn yn y ffilm, yn ôl John Griffiths?

vi) Beth sy’n digwydd i Dorothy yn y ffilm?

vii) Beth yw lliw a) ei ffrog b) ei gwallt?

viii) Beth oedd lliw ei hesgidiau yn y ffilm wreiddiol?

ix) Pa liw ydyn nhw yn y fersiwn yma?

x) Beth oedd yn arbennig am yr esgidiau yn fersiwn 1999?

xi) Beth gafodd ei ddefnyddio i greu’r corwynt?

IAITH


Yn y sgwrs, defnyddiwyd nifer o ferfenwau a ddilynwyd gan arddodiaid. Cwblhewch y brawddegau a ganlyn trwy ychwanegu ffurf gywir yr arddodiad.

Roedd y tywydd wedi effeithio……………… y gêm.

Ydych chi’n gyfarwydd………………ardal?

Mae hi wedi blino………………nhw.

Addawodd hi ………………’r plant y basen nhw’n mynd i’r parc.

Peidiwch anghofio ……………… ni!

Dw i ddim yn gallu ateb …………… chi a’ch brawd.

Doeddwn i erioed wedi clywed………………nhw.
Ysgrifennais i ……………… hi unwaith.

Rhowch y gair rhwng cromfachau yn y frawddeg gan dreiglo yn ôl y galw:

Cafodd y ffilm ei gwneud tua………………… yn ôl. (pum/blynedd)
Fe welais ambell ………………. ar y mynydd. (dafad)
……………… e mo’r tŷ wedi’r cyfan. (Prynodd)
Ydy’r tocyn …………………. Dewi? (yn/poced)
Bwytais i ………….., ………….., a………………. (bara/caws/teisen)
Dewch yma ar unwaith, ………………..! (plant)
Ydy’r sgert ……………. yn rhy …………..? (coch/tyn)
Oes gennyt ti ……… i’w ………….. i’r ferch…………? (punt/rhoi/tlawd)

Cywirwch y brawddegau hyn:

Gwelodd ferch bachgen yn mynd heibio.
Dewch â’r car os mae’n bosibl.

Pwy lyfr prynaist ti?


Roedd y siop canllath o’r gorsaf.
Sawl bechgyn sydd â diddordeb yn rygbi?
Dyma’r papur y gofynnaist ti am.
Cofia fynd i’r Swyddfa’r Post.
Mae Mari’n blentyn dda iawn.



TRAFOD


i) Siaradwch am eich hoff ffilmiau.

ii) “Mae oes y sinema leol ar ben”. Trafodwch.

iii) Soniwch am y tro diwethaf aethoch chi i’r sinema.
iv) Teledu v. Sinema. Grwpiau i amddiffyn y naill a’r llall.

v) Sôn am y profiad o grio, chwerthin neu gael ofn yn y sinema.


YMADRODDION


eto fyth; pob dim; rhan annatod; dathlu achlysur

YSGRIFENNU


Cymry ym myd y ffilm.

Portread o actor / actores.

Fy hoff gymeriadau cartŵn.



CD2: TRAC 2
TRAFOD CYNLLUN STAMPIAU’R NADOLIG


[Trafodaeth am gynllun stampiau Nadolig 2006 y Post Brenhinol rhwng llefarydd Swyddfa’r Post, gweinidog ac anffyddiwr]

GEIRFA


Y Post Brenhinol gwylltio gwarth golygu annog anghrediniwr anwybyddu troseddu adlewyrchu carw (ceirw) ymrwymiad uwch-reolwr eilio pechu bob yn ail

nodedig Methodist Wesleaidd ildio egwyddorion seciwlariaeth anffyddiwr cydnabod hijacio celyn uchelwydd nonsens noeth sumbolaeth cawl potsh

Llychlyn efengyl ar gynnydd

GWRANDO A DEALL
i) Pa luniau sydd ar y tri stamp?

ii) Pam mae Cristnogion wedi gwylltio?

iii) Pa fath o wlad yw Cymru, yn ôl y cyflwynydd?

iv) Beth benderfynodd Swyddfa’r Post ei wneud y llynedd?

v) Beth mae Swyddfa’r Post yn ceisio ei osgoi?

vi) Pam mae’r Parch Bryn Jones yn anhapus?

vii) Sut mae Angharad Davies yn disgrifio’r stampiau?

viii) Beth sydd ar gynnydd, yn ôl y Parch Bryn Jones?

ix) Disgrifiwch safbwynt y Dr Iolo ap Gwynn.

x) Pam mae e’n disgrifio’r Nadolig fel “cawl potsh”?

xi) Beth mae Cristnogion yn ei sylweddoli, yn ôl y Dr ap Gwynn?

IAITH


Diffiniwch y canlynol yn eich geiriau eich hun:

i) anghrediniwr ii) Llychlyn iii) egwyddor iv) uchelwydd


Sylwch ar ffurf luosog carw>ceirw. Dyma ragor o enghreifftiau o ffurfiau lluosog a>ei:

car>ceir;


iâr>ieir;
bardd>beirdd;
gafr>geifr;
gwasg>gweisg;
march>meirch;
tarw>teirw.

Nawr, ffurfiwch luosog:


arth; arch; cart; iâr; marw; sarff.

Cwblhewch y brawddegau gan ddefnyddio’r geiriau:


hollol; ein hunain; bob o; rhai; holl; ryw; llall; unrhyw; un; sawl.

i) Doedd e ddim yn hoffi’r ……………. gardiau.

ii) Dydyn ni ddim yn gallu gweld …………………. bob amser.

iii) Doedden nhw ddim eisiau …………….fath o sumbolau Cristnogol ar y

stampiau.

iv) Ces i’r un rhad a chafodd fy mrawd y ………………

v) Dyma dy garden di, ond ble mae fy …………. i?

vi) Cafodd y plant ………………. £5 i fynd i’r dref.

vii) Roedd ……………… plentyn yn absennol o’r dosbarth.

viii) Cerddais i …………….. filltir ar hyd y ffordd.

ix) Chlywodd e mo’r ffôn yn canu gan ei fod e’n ……………… fyddar.

x) Does dim hoelion ar ôl. Oes ……………… gen ti?




Mae’r geiriau a danlinellir wedi eu camddefnyddio gan y siaradwr. Pa eiriau y dylai fod wedi eu defnyddio? Defnyddiwch eiriadur os oes rhaid:

“Dydyn ni ddim yn adnabyddu Cristnogion na Nadolig.”


“Dy’n ni ddim am droseddu’r Eglwys Gristnogol o gwbl.”
“… yn sicrhau y byddwn ni’n eilio rhwng thema crefyddol a themâu digrefydd.”
“Mae’r ffaith ein bod ni’n cynhyrchu stampiau at yr ŵyl yn nodedig o’r Nadolig.”

TAFODIAITH


Ydy’r Parch Bryn Jones a’r Dr Iolo ap Gwynn yn dod o’r de neu’r gogledd? Nodwch y pwyntiau sy’n ffurfio eich barn.

Download 0.67 Mb.

Share with your friends:
1   ...   9   10   11   12   13   14   15   16   ...   36




The database is protected by copyright ©ininet.org 2024
send message

    Main page