Nodyn i’r tiwtor 5 cd 1: cynnwys 9


GEIRFA glaw mân ffordd (ffyrdd) cawod(-ydd) atgyweiriadau mwyn rhwystrau selsiws cyffordd tymheredd gostwng lôn diflannu nosi GWRANDO A DEALL



Download 0.67 Mb.
Page7/36
Date31.07.2017
Size0.67 Mb.
#25383
1   2   3   4   5   6   7   8   9   10   ...   36

GEIRFA


glaw mân ffordd (ffyrdd)
cawod(-ydd) atgyweiriadau
mwyn rhwystrau
selsiws cyffordd
tymheredd gostwng lôn
diflannu
nosi

GWRANDO A DEALL


i) Sut mae’r tywydd, yn ôl y bwletin?

ii) Sut roedd y tywydd cyn heddiw?

iii) Pa fath o law ddisgwylir yn ystod y prynhawn?

iv) Fydd y tywydd yn oer iawn?

v) Ble bydd llawer o law dros nos?

vi) Pa fath o dywydd ddisgwylir yfory?

vii) Sut mae’r tywydd yn debygol o fod erbyn nos Wener?

viii) Beth ddigwyddodd ar ffordd A4107?

ix) Pam mae’r ffyrdd ar gau yng nghanol tref Aberhonddu?

x) Pam bydd un lôn ar gau ar ffordd yn Wrecsam?



IAITH


a) Beth yw ffurf luosog yr enwau a ganlyn?
ffordd
lôn
traffordd
croesfan
lori
cwmwl
gwynt
storm
awel
cawod
taran

b) Os mai south-west (S-W) yw ‘de-orllewin’, beth yw


S-E; N; N-W; E; S-W; W; N-E; S?

c) Lluniwch frawddegau am y tywydd yn cynnwys y canlynol:


Disgwylir; cafwyd; lledu; ysbeidiol; trymion; y tymheredd; gostwng; cyfnewidiol.
ch) Oes angen defnyddio’r fannod (y, yr, ’r) yn y brawddegau hyn ai peidio? Ydy’r defnydd ohoni yn gywir? Cywirwch lle bo angen:


Hwyliodd y llong i’r Iwerddon. Mae’n well gen i haf. Ydy Parch Tom Jones yn byw yma?
Daliodd y gath y lygoden. Dw i’n hoffi cerdded ar lan y Tywi. Ydych chi’n nabod y dau ddyn?

Chi biau rhain? Roedd e’n eistedd yn y haul.

TRAFOD


i) Disgrifiwch y tywydd yn eich ardal chi

a) heddiw

b) yn ystod yr wythnos

c) yfory.

ii) Disgrifiwch unrhyw broblemau trafnidiaeth sy’n blino trigolion eich ardal chi.

iii) Soniwch am eich atgofion am y tywydd yng nghyfnod eich plentyndod.



YMADRODDION


glaw mân; arllwys y glaw; tywallt y glaw; hindda neu ddrycin

YSGRIFENNU


a) Cadwch record ddyddiol o’r tywydd yn ystod yr wythnos.

b) Ysgrifennwch lythyr at eich cyngor lleol yn cwyno am broblem ar y ffyrdd yn eich ardal.


c) Gyrru.
d) Tywydd Cymru ddoe a heddiw.


CD1: TRAC 10

DARN O BREGETH


[Dyma enghraifft o arddull hamddenol pregethwr yn trin ei destun wrth ei bwysau. Mae’r darn yn cynnwys nifer o dermau crefyddol a diwinyddol]

GEIRFA


tyrfa mentyll palmwydd bendigedig

goruchaf marchogaeth march concwerwr

milwrol trugaredd o ryfedd anghyfanedd

cyflawni’r maddeuant rin cadernid

broffwydoliaeth tosturiol cofnod gwendid

brenhiniaeth torcalon nis cyfnewidwyr

gwyrthiau balm mynnech halogi

dwyfol dynol sanctaidd pallu


GWRANDO A DEALL
i) At ba ddinas mae’r pregethwr yn cyfeirio?
ii) Beth fydd thema’r bregeth?
iii) Sut roedd Iesu’n wahanol i goncwerwr milwrol?
iv) Enwch ddwy o’r ffenestri mae’r pregethwr yn eu nodi?
v) Beth welwn ni yn nagrau Iesu, yn ôl y pregethwr ?
vi) Yn ôl y pregethwr, ydy Iesu’n wylo am ei fod yn wan?
vii) Beth wnaeth Iesu yn y Deml?
viii) Pryd mae dagrau’n llifo, ym marn y pregethwr?

IAITH


a) Sicrhewch eich bod yn gwybod ystyr y geiriau hyn. Wedyn, gwrandewch ar y darn a phan glywch chi’r geiriau, ticiwch nhw.
goruchaf
brenhiniaeth
dwyfol
trugaredd
maddeuant
tosturiol
balm
o ryfedd rin
anghyfanedd
halogi
sanctaidd

b) Datgelwch y gair:

YFDWLO LONDY FYRAT CERDINAD MOLIRWL

c) Pa eiriau o blith y rhain fyddech chi’n eu defnyddio i ddisgrifio arddull y pregethwr?


cyffrous; hamddenol; ysgafn; dwys; o ddifrif; trist; pwyllog; brwd.

TAFODIAITH


Ym mha ffordd mae iaith y pregethwr yn wahanol i iaith bob dydd?
Beth yw prif nodweddion y cywair (register) hwn?
Pa gyweiriau eraill gallwch chi feddwl amdanynt?

TRAFOD


i) Adroddwch unrhyw stori o’r Beibl rydych yn ei gwybod i’ch partner.

ii) Beth yw’r rhesymau bod crefydd ar drai? Trafodwch.

iii) Mae llawer o eglwysi a chapeli gwag yn ein cymunedau. Beth ddylen ni ei wneud â nhw?

Lluniwch restr o awgrymiadau.

iv) Ydy hi’n dderbyniol i ddyn wylo? Trafodwch.

v) Y Cristion Pedair Olwyn

Mewn pram aeth i’w fedyddio.

Pan briododd cafodd limo.

Ac y tro nesa’ gwelwn Dai

Bydd eisiau hers i’w gario.


Ydy hwn yn ddarlun cywir o’r Cymro cyffredin heddiw yn eich barn chi?

YMADRODDION


Mae’r pregethwr yn sôn am “y galon a fu ar dorri”. Edrychwch ar yr ymadroddion hyn sy’n ymwneud ag amser:
Mae’r trên ar fynd.
Mae’r trên ar fin mynd.
Mae’r trên newydd fynd.
Mae’r trên wedi hen fynd.

YSGRIFENNU


Y tro diwethaf es i i gapel / eglwys
Eglwysi / capeli ein hardal ni
Priodi – capel / eglwys / swyddfa gofrestru /gwesty / unrhyw le arall?


CD1: TRAC 11
TWM ELIAS YN SIARAD AM BRYFED COP


[Yma mae’r Dr Twm Elias yn sôn am rai o’r traddodiadau a chwedlau sy’n gysylltiedig â phryfed cop / corynnod]

GEIRFA


corryn (corynnod) rhigwm
dropyn buddiol
erchyll stofi
gwe cysylltiadau
gwerthfawrogi cuddio rhag
annibyniaeth ffoi
crafangau llochesu
ysbrydoliaeth achub

GWRANDO A DEALL
i) Cyfeithiad o ba rigwm Saesneg yw’r un ar ddechrau’r sgwrs?

ii) Pam mae Twm Elias yn galw’r pry’ cop yn “wir grefftwr”?

iii) Tua faint o gysylltiadau sydd mewn gwe corryn?

iv) Faint o amser mae corryn yn ei gymryd i stofi gwe?

v) Sut mae rhai pobl yn ystyried pryfed cop?

vi) Bywydau pa bobl enwog mae corynnod


wedi eu hachub?

vii) Ble roedd Mair a Joseff a’r baban Iesu yn cuddio?

viii) Pam nad aeth y milwyr i mewn i’r ogof i chwilio amdanynt?

ix) Pryd roedd Robert the Bruce yn brwydro yn erbyn y Saeson?

x) Sawl cynnig gafodd y corryn cyn llwyddo?


Download 0.67 Mb.

Share with your friends:
1   2   3   4   5   6   7   8   9   10   ...   36




The database is protected by copyright ©ininet.org 2024
send message

    Main page