Nodyn i’r tiwtor 5 cd 1: cynnwys 9



Download 0.67 Mb.
Page5/36
Date31.07.2017
Size0.67 Mb.
#25383
1   2   3   4   5   6   7   8   9   ...   36

TAFODIAITH


Trafodwch beth yn eich barn chi yw hanfodion iaith bwletin newyddion da. Oes lle i dafodiaith o gwbl mewn bwletin o’r fath?

TRAFOD


i) Fel grŵp, lluniwch restr o bethau sydd yn y newyddion naill ai yn lleol neu yn genedlaethol. Gan gymryd un pwnc yr un, paratowch eitem ar gyfer y bwletin.

ii) Codi tai neu gadw’r caeau? Trafodwch.

iii) Y sefyllfa dai yn eich ardal.

iv) “Dim ond newyddion drwg sydd o ddiddordeb i’r cyfryngau”. Trafodwch.




YSGRIFENNU


Prynu fy nhŷ cyntaf.

Sut yr hoffwn weld fy ardal yn datblygu.




CD1: TRAC 5
POBL IFAINC GWENT YN SÔN AM Y GYMRAEG


[Disgyblion Ysgol Gwynllyw, Gwent yn esbonio eu hagwedd iach at y Gymraeg]

GEIRFA


yn bennu lan
o arfer
arferiad
ymateb
cwestiynu

GWRANDO A DEALL
i) Oedd y merched yn yr un ysgol gynradd cyn mynd i Ysgol Gwynllyw?

ii) Beth maen nhw’n ei wneud sy’n anarferol?

iii) Beth fyddai’n annaturiol iddyn nhw ei wneud?

iv) Ble dechreuodd un o’r merched a’i dwy chwaer ddysgu Cymraeg?

v) Faint o Gymraeg sydd gan eu tad?

vi) Beth maen nhw’n gobeithio y bydd ymateb pobl i’w penderfyniad?

vii) Beth yw gobaith un o’r merched?

viii) Sut mae pobl y gogledd yn eu gweld, yn ôl un ferch?


IAITH


a) Mae cenedl rhai enwau yn amrywio yn ôl ardal. Beth mae pobl yn ei ddweud yn eich ardal
chi?


dau funud dwy funud
y dafarn y tafarn
y cyngerdd y gyngerdd
y gornel y cornel
dwy emyn dau emyn
nifer mawr nifer fawr
angladd mawr angladd fawr
y dudalen y tudalen

b) Mae acenion yn gallu bod yn bwysig. P’un o’r rhain sy’n gywir?



glân y mor glan y môr
caniatâd caniatad
caniatáu caniatau
glowr glöwr
glöwyr glowyr
coffáu coffàu

c) Cwblhewch y frawddeg drwy ddewis y gair cywir:

i) Doedd e ……………. wedi ymweld â Rwsia.

a) byth

c) erioed



b) gynt

ch) o flaen



ii) Aeth Twm a Mari i’r sinema ………………….

a) gyda’u gilydd

c) gyda’i gilydd



b) i’w gilydd

iii) Colli wnaethoch chi, mae’n siwr. ……….. , wrth gwrs.

a) Ie

c) Ydy


b) Do

iv) Pryd cyrhaeddodd y bws ……………………?

a) Caerdydd

c) Gaerdydd



b) yng Nghaerdydd

v) Dof i adref cyn naw o’r gloch ……………..

a) neithiwr

c) echnos



b) heno



TAFODIAITH
Mae rhai yn mynnu bod plant ysgolion Cymraeg y de-ddwyrain a’r gogledd-ddwyrain yn datblygu eu tafodiaith eu hunain. O wrando ar y darn hwn, pa sylwadau byddech chi’n eu gwneud o dan y penawdau:

GEIRFA


CYSTRAWEN

TREIGLADAU

DEFNYDD O’R SAESNEG

TRAFOD


i) Oes disgwyl i blant o gartrefi di-Gymraeg sy’n derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg siarad yr iaith â’i gilydd y tu allan i’r ysgol?

Trafodwch.

ii) Gwnewch restr o’r pethau sy’n anodd i ddysgwyr mewn ardaloedd lle mae’r Gymraeg yn


brin.

iii) Oes rhaid siarad yn berffaith er mwyn cyfathrebu?


YSGRIFENNU


Lluniwch restr o 10 o bethau fyddai’n helpu dysgwyr Cymraeg yn eich ardal chi.

Y tro cyntaf i mi gael sgwrs yn Gymraeg oedd ……………





CD1: TRAC 6
CYFLWYNO CAIS


[Dai Jones yn cyflwyno cais gan wrandawr ar y rhaglen ‘Ar Eich Cais’]

GEIRFA
wyddoch chi be’?
yn prysur fynd
braint
agoriadol
cewri
godidocaf
cyfarchion
wyr (wyrion)
Eryr Pengwern
GWRANDO A DEALL
i) Sut mae’r tywydd, yn ôl Dai?

ii) Ble mae e wedi treulio’r penwythnos?

iii) Pwy welodd e yng Nghaerdydd?

iv) Beth sy’n digwydd yn y siopau?

v) Beth sy’n bwysicach na dim, yn ôl Dai?

vi) Ers faint o amser mae e wedi cyflwyno ‘Ar eich Cais’?

vii) Oddi wrth bwy mae’r llythyr?

viii) Am beth mae awdur y llythyr yn adnabyddus?

ix) Faint yw oed Eirwen Jones?

x) Sut mae Dai yn ei chanmol?


IAITH


a) Weithiau mae’r Gymraeg yn defnyddio mwy nag un berfenw i gyfleu cysyniad tra bo Saesneg yn defnyddio un. Er enghraifft, gwybod / adnabod yn Gymraeg, ond yn Saesneg, ‘to know’ yn unig.
Rhestrir tair enghraifft o hyn yn y golofn ar y chwith. Lluniwch 8 brawddeg trwy ddefnyddio’r berfenwau hyn mewn perthynas â’r enwau yn y golofn ar y dde:

gwario / treulio esgidiau / arian / amser

achub / arbed / cynilo traed / person / arian

tebyg / tebygol troi’n wlyb / i’w fam

b) Gwrandewch ar y darn eto gan sylwi ar y tagiau / ychwanegiadau a ganlyn:
Caerdydd ’na chi;
a wyddoch chi be’;
alla i ddim gofyn am fwy, ’na alla’?;
yn wir i chi;
chi’n mbod;
ddylwn i ddeud;
’dych chi ddim yn edrych hynny, ’na dach?;
na Dafydd, o ran hynny;
â chroeso calon.

c) Ychwanegwch y cynffoneiriau (tagiau) cywir:

i) Dw i’n edrych yn iawn, ………………….?
ii) Dydy e ddim wedi mynd, …………….… ?
iii) Roedden nhw yn y tŷ, …………………..?
iv) Fyddi di ddim yn y gêm,…………………?
v) Doedd e ddim yn chwerthin, ……………?
vi) Fe enillon nhw yn y diwedd, …………….?
vii) Tom yw dy enw di, ……………………….?
viii) Mae ganddi gar, ………………………….?



Download 0.67 Mb.

Share with your friends:
1   2   3   4   5   6   7   8   9   ...   36




The database is protected by copyright ©ininet.org 2024
send message

    Main page