Nodyn i’r tiwtor 5 cd 1: cynnwys 9



Download 0.67 Mb.
Page4/36
Date31.07.2017
Size0.67 Mb.
#25383
1   2   3   4   5   6   7   8   9   ...   36

IAITH


a) Pa eiriau o’r ddwy golofn sy’n gyfystyr?

traffig dal i

cyw yn brydlon

oedi trafnidiaeth

ar amser gohirio

parhau cwt


b) Dysgwch y termau hyn yn ymwneud â’r ffyrdd a darganfod eu hystyr (Sylwch eu bod i gyd yn fenywaidd):
ffordd (ffyrdd);
cyffordd;
traffordd;
ffordd ddeuol;
pontffordd;
croesffordd;
priffordd;
heol (hewl) fawr.

c) Gwrandewch ar yr adroddiad eto. Pa enw o bob pâr glywsoch chi?


Aberteifi / Abertawe;
Baglan / Bangor;
Pentre-bach / Pentyrch;
Abercynon / Aberaman;
Caerfyrddin / Caernarfon;
Ceinewydd / Cei Connah

TRAFOD


i) Pam mae’n anghywir cyfeirio at Ffordd M4 fel ‘yr M4’? Pam, yn eich barn chi, mae pobl yn mynnu dweud hyn? Oes enghrefftiau eraill tebyg?

ii) Disgrifiwch yn fanwl eich taith i’r dosbarth neu o’ch cartref i’r dref fawr agosaf.

iii) Trafodwch sut y byddech yn datrys problemau trafnidiaeth Cymru.

iv) ‘Dylid codi’r dreth ar betrol yn sylweddol’. Trafodwch



YSGRIFENNU


Taith gar / fws gofiadwy.

Gyrru.


Gyrwyr ifanc.

Damwain.




CD1: TRAC 3
PENAWDAU’R NEWYDDION


[Cyhoeddwr yn rhestru penawdau’r newyddion]

GEIRFA
ymchwil awgrymu
gwneud drygau
gwaethaf euog
cyfaddef llofruddio
Llys y Goron cipio
treisio cynlluniau
pryderon gwyliadwriaeth
carcharor

GWRANDO A DEALL


Gwir neu anwir?

i) Mae pobl ifainc Prydain gyda’r gorau yn Ewrop.

ii) Roedd y baban a laddwyd yn fis oed.

iii) Cafodd merch ei chipio yn Wrecsam.

iv) Dyma’r tro cyntaf i unrhyw un awgrymu

ehangu’r marina.

v) Mae cynghorwyr Dinbych am geisio gwella bwyd ysgol.

vi) Roedd sôn am gael carcharor trwy’r post!



IAITH


a) Gwrandewch ar y penawdau eto a chwblhewch y brawddegau hyn:

i) Ieuenctid Prydain ydy’r ………….………………………….………………..… yn Ewrop.

ii) Mam ifanc o Abertawe yn euog o…. ……………….…………….. marwolaeth ei babi.

iii) Dyn wedi ei gyhuddo o gipio a ………..…………………… merch ifanc yn Wrecsam.

iv) Cynlluniau ar y ……………………………..………………i ddatblygu marina Pwllheli.

v) Cynghorwyr yn gofyn am arian i wneud yn siwr y bydd ……………. ar gael yn y sir.

vi) Byddwch ar eich ………………………..… rhag ofn y cewch chi garcharor yn y post!

b) Diffiniwch yn eich geiriau eich hun:


ymchwil; carcharor; llofruddio; awgrymu; Llys y Goron; cipio

c) Ailysgrifennwch y brawddegau hyn gan ddefnyddio ffurf gryno amhersonol y ferf:





Cafodd lleidr ei ddal.

Daliwyd y lleidr.

Bydd y ffair yn cael ei hagor gan y Maer.

Cafodd y bachgen ei garcharu.

Mae’r gyngerdd yn cael ei threfnu gan Gyngor y Dref.

Cafodd y baban ei ladd gan ei fam.


Roedd Cymraeg yn cael ei siarad yno unwaith.

Bydd y tŷ’n cael ei werthu yfory.

Roedd dillad yn cael eu gwerthu yno flynyddoedd yn ôl.

Mae Dewi’n cymryd y brif ran yn y ddrama.




TAFODIAITH


Beth yn eich barn chi yw prif nodweddion iaith bwletin newyddion? Pa bynciau sy’n ymddangos yn gyson?

TRAFOD


i) Lluniwch benawdau’r newyddion yng Nghymru / Prydain yr wythnos hon a thrafodwch rai

ohonynt yn y grŵp.

ii) Lluniwch rai o benawdau’r byd eleni / y llynedd a’u trafod yn yr un modd.
iii) Trafodwch yr eitemau sydd yn y newyddion yn eich ardal ar y pryd.

YMADRODDION


Byddwch ar eich gwyliadwriaeth!

YSGRIFENNU


Lluniwch un eitem lawn o newyddion cyfredol.
Ar y cyd, lluniwch fwletin o eitemau newyddion y dosbarth – pen-blwyddi; ymweliadau;
absenolion; afiechyd etc.
Lluniwch fwletin newyddion ar gyfer 2100.



CD1: TRAC 4
EITEM NEWYDDION – CODI TAI YN LLANELWY


[Eitem yn trafod problemau ehangu tref fach yng ngogledd-ddwyrain Cymru]

GEIRFA


ymgynghoriad cynlluniau
datblygu lleol
gwrthwynebiad trigolion
dyblu adnoddau
ymdopi datganiad
pendant argymhellion

GWRANDO A DEALL
i) Beth mae Cyngor Sir Dinbych yn ei wneud ar hyn o bryd?

ii) Faint o dai fydd, o bosib, yn cael eu codi?

iii) Ble yn union maen nhw’n bwriadu codi’r tai?

iv) Beth yw teimlad y bobl leol?

v) Beth maen nhw’n ei ofni?

vi) Pa mor bendant yw’r cynlluniau?

vii) Tan pryd gall pobl ddweud eu barn?

IAITH


a) Cysylltwch bob gair ar y chwith â’r diffiniad agosaf ohono:

gwrthwynebiad sicr


ymgynghoriad llwyddo i
trigolion bwriadau
ymdopi bod yn erbyn
pendant holi barn pobl
cynlluniau preswylwyr
b) Gwir neu Anwir

Dydy Cyngor Dinbych ddim yn trafod eu cynlluniau â phobl leol.


Mae 800 o dai wedi cael eu codi yn y dre yn barod.
Mae pobl yn pryderu y bydd maint y dref yn tyfu.
Mae digon o adnoddau yn y dre i ganiatáu’r datblygiad.
Mae’r cynlluniau yn bendant nawr.
Gall pobl ddatgan eu barn tan Ragfyr y cyntaf.

c) Lluniwch frawddegau i ddangos y gwahaniaeth rhwng y parau hyn o eiriau:
ewin / ewyn;
ffraeo / ffrio;
glân / glan;
hael / haul;
hud / hyd (enw)




Download 0.67 Mb.

Share with your friends:
1   2   3   4   5   6   7   8   9   ...   36




The database is protected by copyright ©ininet.org 2024
send message

    Main page