Nodyn i’r tiwtor 5 cd 1: cynnwys 9



Download 0.67 Mb.
Page8/36
Date31.07.2017
Size0.67 Mb.
#25383
1   ...   4   5   6   7   8   9   10   11   ...   36

IAITH


a) Pa eiriau cyfystyr â’r canlynol glywsoch chi yn y darn?
cerdd; ofnadwy; adeiladu; cysgodi; symbyliad.

b) Mae Twm Elias yn dweud bod Mair, Joseff a’r Iesu wedi “cuddio rhag” y milwyr.


Dyma ragor o ferfenwau a ddilynir gan ‘rhag’:

amddiffyn rhag; atal rhag; cadw rhag; dianc rhag; ffoi rhag; cysgodi rhag; achub rhag.

rhagddo i rhagddon ni
rhagddot ti rhagddoch chi
rhagddo fo/fe rhagddyn nhw
rhagddi hi
Lluniwch frawddegau yn cynnwys y berfenwau hyn gan amrywio person yr arddodiaid.
c) Ar wahân i’r pry’ cop / corryn, sawl pryfetyn ydych chi’n gallu ei enwi yn Gymraeg? Gwnewch restr.


TAFODIAITH


Dyma rai o’r ffurfiau a ddefnyddiodd Twm Elias: ‘yfad; efo; gorffan; pryfed cop; bywyda; ogo’. Beth yw eich sylwadau?

TRAFOD


i) Mae Twm yn gwneud fel y gwna llawer o Gymry, a Saeson o ran hynny, sef dyfynnu hanner dihareb! Mae e’n dweud,“Dyfal donc amdani…..” Y ddihareb yn llawn yw “Dyfal donc a dyr y garreg”. Beth yw diwedd y diarhebion cyffredin a ganlyn?

Cyntaf i’r felin…………………………….


A fo ben ………………………………….
I’r pant ……… ………………………….
Gorau Cymro …………………………….
Gwyn y gwêl……………………………….
Angel pen ffordd ………………………….

ii) Ailadroddwch naill ai stori’r corryn yn achub Mair a Joseff neu stori Robert the Bruce yn eich geiriau eich hun.

iii) Gan weithio mewn parau, soniwch wrth eich gilydd naill ai am eich hoff neu gas anifail, aderyn neu bryfetyn.

YMADRODDION


Mewn ebychiad, mae’r gair ‘druan’ yn cael ei dreiglo beth bynnag yw rhif a chenedl y person y cyfeirir ato:

Unigol gwrywaidd: Druan bach!

Unigol benywaidd: Druan fach!

Lluosog: Druan â nhw!


Mae “Druan bach ohoni” yn amrywiad lleol diddorol mewn ardaloedd yn y gogledd lle na threiglir y gair ‘bach’ cf. Eglwys-fach (Ceredigion) ac Eglwys-bach (Clwyd).

YSGRIFENNU


Unrhyw stori am anifail, aderyn neu bryfetyn.
Pethau dw i’n eu hofni.
‘Dyfal donc……..!’


CD1: TRAC 12
HANES CATH DEW


[Hanes Guto Siôn, cath o Lanberis, sydd wedi tyfu’n rhy dew]

GEIRFA


anifeiliaid sbriws

anwes prydau

cyw iâr bwyd

medru llusgo

symud

GWRANDO A DEALL
i) Beth yw enw cath Mair Ffowcs?
ii) Beth sy’n bod ar y gath?
iii) Pa enwau sydd gan y pentrefwyr arno?
iv) Pryd mae e’n bwyta cyw iâr?
v) Beth arall mae e’n ei fwyta yn ystod y dydd?
vi) Sut mae e’n symud?
vii) Ble mae’r gath yn hoffi mynd?
viii) Sut rydyn ni’n gwybod ei fod yn fawr?

IAITH


a) Beth yw’r enw gwrywaidd / benywaidd cyfatebol?

cath cwrcyn / gwrcath


………… ci
llewes …………
caseg …………
………… mochyn
iâr …………
………… clacwydd
buwch …………

b) Dywedir am y gath ei bod ‘yn bwyta fel ceffyl benthyg’. Pa rai, yn eich barn chi, sy’n cyfateb?


Yn yfed fel paun
Yn rhegi fel mochyn
Yn siarad fel lladd nadroedd
Yn rhochian fel pwll y môr
Yn gweithio fel ych

c) Mae ystyr rhai geiriau yn amrywio yn y de a’r gogledd. Enghraifft o hyn yw pan yw Jonsi yn dweud “Brwnt, ’te?”

Ystyr ‘brwnt’ yma yw ‘creulon / cas’. Yn y de, yr ystyr yw ‘aflan’. Ceisiwch weld beth yw gwahanol ystyron y geiriau hyn:



allt; diniwed; llofft; blin.

TAFODIAITH


Mae’r ddau siaradwr o Wynedd. Faint o ôl tafodiaith sydd ar eu sgwrs o ran: GEIRFA; TERFYNIADAU GEIRIAU; YMADRODDION; TONYDDIAETH?

Ystyriwch y sgwrs o dan y penawdau hyn.


TRAFOD


i) Anifeiliaid anwes – mantais neu rwystr? Trafodwch.

ii) Cymharwch gathod a chŵn fel anifeiliaid anwes.



YMADRODDION


bwyta fel ceffyl benthyg; yn ôl y sôn.

Pan nad yw Mair Ffowcs yn gallu cofio gair, mae hi’n defnyddio ‘pethma’(thingamy). Y gair yn y de yw ‘bechingalw’. Maen nhw hefyd yn cyfleu ‘whatsit’ a ‘whatyoucall’!



YSGRIFENNU


Portread o anifail anwes.
Anifeiliaid mewn chwedlau, ffilmiau neu nofelau.
Mae anifeiliaid anwes yn cael gormod o sylw.Trafodwch.

CD 1: TRAC 13
CÂN WERIN


[Meredydd Evans yn canu cân ychen draddodiadol o Forgannwg]

GEIRFA


Marsiandïaeth porthmon (porthmyn)
cwyd tiwnio
llwyn brefu
rhodio

GWRANDO A DEALL


Mae deall iaith caneuon yn gallu bod yn anodd. Fodd bynnag, y rhai hawsaf eu deall yw caneuon gwerin digyfeiliant. Cyn edrych ar y geiriau ysgrifenedig, gwrandewch ar y gân a cheisiwch ateb y cwestiynau yma:

i) Sut mae’r tywydd ar ddechrau’r gân?

ii) Beth mae’r bardd yn gallu ei glywed?

iii) Beth mae rhaid iddo ei wneud am un o’r gloch?

iv) Pryd mae’r da am gael eu godro?

v) Pa sŵn mae’r da yn ei wneud?

vi) Pa dymor yw hi yn y pennill olaf?

vii) Beth mae’r bachgen am ei wneud?



IAITH


a) Yn y gân mae sôn am y da yn brefu a’r gwcw’n tiwnio. Pa sŵn mae’r anifeiliaid hyn yn ei
wneud? Pa 3 sy’n brefu?

tarw gwichian


dafad mewian
ceffyl brefu
mochyn cyfarth
buwch clwcian
llygoden brefu
ci rhuo
cath brefu
gafr gweryru
iâr rhochian

b) Sylwch ar y llinell,‘Fe ddaeth y da i’w godro gan frefu dros y lle’.
Rydyn ni’n defnyddio ‘gan’ i gyfeirio at rywbeth sy’n cyd-ddigwydd â’r ferf yn y prif gymal.
Cysylltwch y rhain:
Cerddodd Dewi i’r ysgol. Canodd yn uchel.
Neidiodd y plant i mewn i’r llyn. Gweiddon nhw’n gyffrous.
Aeth Mari i’r gwely. Roedd hi’n crio yn ei thymer.
Yfodd y dyn ei de. Roedd e’n darllen y papur.
Mae Elwyn yn cerdded i’r ysgol. Mae e’n chwibanu.
Aethon nhw heibio. Roedden nhw’n gweiddi ar y plant eraill.

c) Mae’r ymadroddion canlynol i gyd yn gywir. Dysgwch nhw! Ond beth sy’n rhyfedd amdanyn


nhw?
noson braf; nos da; wythnos diwethaf; am byth.

ch) Mae rhai amrywiadau rhwng de a gogledd yn yr eirfa. Pa eiriau sy’n cyfateb yn y ddwy


golofn?


De Gogledd
cadno mai
cer dwad
dere isio
hogyn llwynog
gyda tyrd
mo’yn dos
dod efo
taw bachgen


Download 0.67 Mb.

Share with your friends:
1   ...   4   5   6   7   8   9   10   11   ...   36




The database is protected by copyright ©ininet.org 2024
send message

    Main page