Nodyn i’r tiwtor 5 cd 1: cynnwys 9



Download 0.67 Mb.
Page6/36
Date31.07.2017
Size0.67 Mb.
#25383
1   2   3   4   5   6   7   8   9   ...   36

TAFODIAITH


Brodor o Geredigion yw Dai Jones. Oes gennych chi unrhyw sylwadau ar nodweddion ei iaith lafar?

TRAFOD


i) Rydych yn mynd i wneud cais am record i Dai Jones. Penderfynwch i bwy a pham gan sôn
rhywbeth am wrthrych y cais a’r rheswm dros y dewis.

ii) “Mae rhaglenni fel ‘Ar eich Cais’ ond yn ffordd hawdd o arbed arian i’r cwmnïau darlledu”.


Trafodwch.

YMADRODDION


am yn ail; wythnos fach go lew; y fath fraint.

YSGRIFENNU


Ysgrifennwch gerdyn post at Dai Jones yn gwneud cais (i) uchod.





CD1: TRAC 7
DYFALU’R FLWYDDYN


[Hywel Gwynfryn yn cofio rhai o ddigwyddiadau blwyddyn arbennig]

GEIRFA
cynteddau arlywydd
herio uchafbwyntiau
mynd yn angof procio
ymddiswyddo chwalu

GWRANDO A DEALL
i) Beth ddigwyddodd ym Mae Caerdydd?

ii) Pa wleidydd aeth i drafferth?

iii) Beth wnaeth David Beckham i dynnu sylw?

iv) Pa fath o siop newydd agorodd yng Nghaerdydd?

v) Pwy oedd wedi sarhau’r Cymry?

vi) Pa grŵp ganodd am Gymru?

vii) Pa ferch o America oedd yn y newyddion?

IAITH


a) Gan ddilyn y patrwm, cwrtais > anghwrtais, beth yw’r gair cyferbyniol i’r canlynol? Lluniwch frawddeg i ddangos ystyr y gair cyferbyniol.

credadwy > Cristnogol > cyfartal >


cyfreithlon > cyfleus > cyffredin >
cywir > cyson > cyfarwydd >

b) Pa genedl yw’r geiriau hyn – gwrywaidd neu fenywaidd?


priodas
hiraeth
undeb
swyddfa
emyn
wythnos
nos Lun
coron.

c) Rhoi mewn trefn:

i) P’un oedd y ……………………? (3 / eitem)

ii) Hon yw’r ………………………. (11 / awr)

iii) Sbaen oedd y ……………….. i mi ymweld â hi. (5 / gwlad)

iv) Roedd e’n byw yn y ………………….. ( 18/canrif)

v) Dw i’n gofyn iti am yr .…………………… ( 2/gwaith)
vi) Roedd y ……………………. yn rhy hir o lawer ( 4 / act)

TRAFOD


i) Ar ôl rhannu’n grwpiau, trafodwch y ffeithiau a glywsoch a cheisio dyfalu’r flwyddyn dan sylw.

ii) Dyfeisiwch gwis tebyg gan ddewis gwahanol flynyddoedd ac wedyn profi eich gilydd.


iii) Grwpiau’n cystadlu yn erbyn ei gilydd i weld pwy all gofio’r nifer fwyaf o ddigwyddiadau
a grybwyllwyd gan Hywel Gwynfryn.
iv) Lluniwch restr o ddigwyddiadau mewn annus mirabilis neu annus horribilis yn eich
hanes personol a’ch partner neu weddill y grŵp i geisio dyfalu’r flwyddyn.

YMADRODDION


Wrth ddyfalu mae patrwm MAI / TAW yn bwysig:
Dw i’n meddwl mai / taw…;
Dw i’n siwr/ sicr taw…;
Mae’n bosib mai…;
Dw i’n credu mai X oedd y dyn.

YSGRIFENNU


Blwyddyn i’w chofio yn fy hanes.
“Fyddwn i ddim am ail-fyw’r flwyddyn honno”.
Taswn i’n gallu ail-fyw blwyddyn baswn i’n dewis………………
Blwyddyn fawr yn hanes Cymru / Prydain / y byd.

CD1: TRAC 8

CYMRAEG YN Y GOFOD


[Hanes y Gymraeg yn cael ei siarad yn y gofod am y tro cyntaf]

GEIRFA


iaith y nefoedd gofod amser maith
hanesyddol llong ofod wedi hen arfer
hanu dychwelyd mentro
uchelgais cyfweliad

GWRANDO A DEALL
i) Beth ddigwyddodd am y tro cyntaf erioed yn 1998?
ii) Ers faint o amser roedd Dafydd Rhys Roberts wedi bod yn paratoi?
iii) Beth oedd enw’r llong ofod?
iv) Dyma’r tro cyntaf i long ofod adael y ddaear?
v) Ble mae Dafydd Rhys Roberts yn byw?
vi) Beth yw ei gysylltiad â Chymru?
vii) At beth roedd e’n edrych ymlaen?
viii) Pwy ddychwelodd i’r gofod yn 1998?
ix) Pa ddwy record sydd ganddo?
x) Faint oedd ei oed yn cyflawni’r ail gamp?



IAITH


a) Pa eiriau ac ymadroddion sy’n perthyn i’w gilydd yn y ddwy golofn
yng nghyd-destun yr eitem hon?

hanesyddol ceisio


iaith y nefoedd mynd yn ôl
y gofod yn digwydd am y tro cyntaf
mentro yn dod o
dychwelyd awydd
i gyflawni rhywbeth hanu Cymraeg
uchelgais y tu hwnt i’r byd

b) Rhowch 2 (dau / dwy) o flaen y geiriau hyn;
iaith
llong
tro
pennill
pennod
awr
gwlad
gofodwr

c) Cywirwch y brawddegau hyn:

Siarada o’r ofod, Ddafydd!


Roedd y long ofod yn lawn.
Roedd gweld y byd o’r long yn ryfedd.
Fe’i alwyd yn Rhys.
Roedd e’n siarad milltiroedd uwchben y ddaear.
Roedden nhw’n gallu gweld sawl wlad.

TAFODIAITH


Yn eich barn chi, faint o Gymraeg mae Dafydd Rhys Roberts yn gallu ei siarad mewn gwirionedd? Ar ôl gwrando’n ofalus ar yr hyn mae’n ei ddweud, nodwch y rhesymau dros eich penderfyniad.

TRAFOD


i) Tasech chi wedi cael y cyfle i siarad Cymraeg yn y gofod am y tro cyntaf, beth fasech chi wedi ei ddweud?

ii) Ydy teithio i’r gofod yn wastraff arian? Trafodwch.

iii) Ym mha sefyllfaoedd unigryw eraill y basai’n werth siarad Cymraeg? Rhestrwch eich awgrymiadau.

YMADRODDION


ers amser maith; wedi hen arfer; iaith y nefoedd.

YSGRIFENNU


Casglwch wybodaeth am John Glenn a lluniwch bortread ohono.

Lluniwch bortread o unrhyw anturiaethwr(-wraig) rydych yn ei (h)edmygu.




CD1: TRAC 9
ADRODDIAD TYWYDD A FFYRDD


[Enghraifft o ragolygon y tywydd ac adroddiad ffyrdd]

Download 0.67 Mb.

Share with your friends:
1   2   3   4   5   6   7   8   9   ...   36




The database is protected by copyright ©ininet.org 2024
send message

    Main page