IAITH
a) Ysgrifennwch frawddegau i ddangos y gwahaniaeth rhwng y berfau canlynol:
cartrefu / ymgartrefu; golchi / ymolchi; paratoi/ ymbaratoi; tawelu / ymdawelu;
dangos /ymddangos.
b) Fel arfer bydd ll>l ac rh>r o dan amodau’r treiglad meddal. Weithiau, fodd bynnag, maen
nhw’n gwrthsefyll treiglo. Rhowch y geiriau rhwng cromfachau yn y frawddeg gan dreiglo
neu beidio yn ôl y galw:
Torrodd y bachgen ei …………………….. [llaw]
Pam mae’r neuadd mor ………………? [llawn]
Ble mae’r …………….. fach? [rhaw]
Collodd y milwr un goes ac un ………… [llaw] yn y …………..[Rhyfel] Fawr.
Roedd e’n credu bod y dillad yn …………[rhad]
Mae’r afon yn rhy …………. [llydan] i’w chroesi.
Dyma’r tro cyntaf i mi fod ar y ………………..[llong] hon.
Daliodd e ……………. [llygoden] fawr ond dihangodd y ……………. [llygoden] fach.
c) Defnyddiwch y geiriau hyn a glywsoch chi yn ydarn i gwblhau’r brawddegau:
etifeddiaeth; gelynion; marchnata; poblogaidd;blin; copa; awgrymiadau; safon.
Roedd y Beatles yn grŵp …………………iawn.
Mae Cristnogion yn dweud bod rhaid inni faddau ein ……………………….
Dywedodd y beirniad fod ………………. y gystadleuaeth yn isel.
Gair arall am ‘cas’ yw ………………… yng ngogledd Cymru.
Mae’r iaith yn rhan bwysig o …………………y Cymry.
Dringodd y tri i ……………………. ’r mynydd.
Rydyn ni’n chwilio am enw i’r tŷ. Oes gennych chi …………………..?
Methodd y busnes am nad oedden nhw’n…………………eu nwyddau yn effeithiol iawn.
TAFODIAITH
Ganwyd ac addysgwyd Swyddog y Parc Cenedlaethol yn ne Cymru. Fasech chi’n dweud bod ei hiaith yn awgrymu hynny? Pa esboniad fasech chi’n ei gynnig?
TRAFOD
‘Hafod Eryri’ oedd yr enw a ddewiswyd yn enw ar y caffi newydd ar gopa’r Wyddfa. Ydych chi’n meddwl ei fod yn enw da? Pa enw fasech chi wedi ei ddewis?
“Gan fod mwyafrif yr ymwelwyr i Eryri yn dod o Loegr, dylen nhw fod wedi dewis enw Saesneg fasai’n hawdd ei ynganu”.Trafodwch.
Sut cawsoch chi eich enw? Dywedwch yr hanes. Sôn am enwau doniol neu anaddas ar bobl rydych chi wedi eu clywed.
YSGRIFENNU
Dewis enw.
Taswn i wedi gallu dewis fy enw fy hun, baswn i wedi dewis…….. Pam?
Enwau tai ein hardal ni.
CD2: TRAC 17
HUNANGOFIANT VICTOR SPINETTI
[Evan Morgan yn trafod hunangofiant Victor Spinetti ac yn sôn am ei gysylltiad â’r actor]
GEIRFA
hunangofiant sioe un dyn adloniant adeg clên werthfawrogi ymateb darfod llefaru adrodd magu Coleg Cerdd a Drama cyffrous hael pigog chwerw gyrfa ymfalchïo Cymreictod
GWRANDO A DEALL
i) Ble gwelodd y siaradwr Victor Spinetti yn perfformio?
ii) Pa mor hir oedd y sioe?
iii) Pam ffoniodd Victor Spinetti Evan Morgan?
iv) Faint o amser oedd rhwng y sgwrs ffôn ac ymddangosiad y llyfr?
v) Ble cafodd Spinetti ei fagu?
vi) O ble roedd ei fam yn dod?
vii) Ym mha ddrama wnaeth e ei enw?
viii) Pa wobr enillodd y sioe yn America?
ix) Enwch rai o’r bobl y daeth i’w hadnabod.
x) Oedd Spinetti wedi cael amser hawdd trwy gydol ei yrfa?
xi) Faint oedd oed ei fam pan fu farw?
IAITH
a) Mae dwy ffurf luosog gan yr enwau hyn. Lluniwch frawddegau i ddangos y gwahaniaeth:
-
cyngor
|
cynghorau
|
cynghorion
|
llif
|
llifogydd
|
llifiau
|
llwyth
|
llwythau
|
llwythi
|
person
|
personau
|
personiaid
|
pwys
|
pwysau
|
pwysi
|
pryd
|
prydiau
|
prydau
|
asen
|
asennau
|
asennod
|
b) Mae mwy nag un ystyr i’r geiriau hyn. Ysgrifennwch frawddegau yn dangos y gwahaniaeth:
magu; pigog; swydd; llif; bwrw.
c) Ydy’r geiriau hyn wedi eu sillafu’n gywir?
penderfynnu; ystyrir; derbynneb; ffynhonnellau; anibynnwyr; annheg
TRAFOD
i) Sôn am bobl adnabyddus rydych chi wedi cyfarfod â nhw.
ii) Disgrifiwch ddigwyddiad y basech chi am ei gynnwys yn eich hunangofiant.
iii) Soniwch am berson adnabyddus neu anadnabyddus yr hoffech ddarllen ei hunangofiant.
iv) Ydy hi’n bosib ysgrifennu hunangofiant hollol onest? Trafodwch.
YMADRODDION
ffasiwn raconteur (y fath)
YSGRIFENNU
Portread cryno o berson rydych chi’n ei adnabod / edmygu.
Un cymeriad y basai rhaid ichi ei gynnwys yn eich hunangofiant.
ATEBION CD1: TRAC 1
a) St Davids – Tŷ Ddewi; Brecon – Aberhonddu;Holyhead – Caergybi; Fishguard – Abergwaun;
Denbigh – Dinbych; Welshpool – Y Trallwng; Newport (Gwent) – Casnewydd;
Chepstow –Casgwent.
b) da – gorau; drwg – gwaethaf; bach – lleiaf; hawdd – hawsaf; agos – agosaf / nesaf; llydan – lletaf;
tlawd –tlotaf; caredig – caredicaf.
c) Hwyliai’r cwch ar draws y bae.Tom oedd ar fai am y ddamwain. Profodd y teuluoedd galedi yn ystod
y streic.Ydy’r paent wedi caledu eto? Roedd 100 yn canu yn y côr. Cor oedd Tom Thumb. Cysgai’r
baban yn y crud. Roeddwn i’n oer ac roedd y cryd arna’ i .Dw i ddim yn mynd i’r parti chwaith.
Doedd ganddi ddim chwaeth dda wrth ddewis dillad.
Share with your friends: |